Toulon 43-20 Gleision
- Published
Roedd pac cry Toulon yn rhy gryf ar gyfer Y Gleision wrth i'r tîm cartref a deiliaid Cwpan Heineken i gyrraedd rownd yr wyth ola'.
Roedd troed Jonny Wilkinson yn allweddol wrth iddo sgorio 23 o bwyntiau.
Fe wnaeth y Gleision arwain am gyfnod byr ar ôl i Filo Paulo groesi am gais cyn i Sam Hobbs gael cais hwyr yn y gêm, a oedd eisoes wedi ei ennill gan y tîm cartref.
Fe wnaeth Leigh Halfpenny drosi'r ddwy gais a chael dwy gic gost.
Fe gafodd pedwar o'r Gleision eu hanfon i'r gell gosb yn ystod y gêm am bwysau di-angen.
Gyda'r Gleision allan o'r gwpan fe all y rhanbarth dargedu lle yng Nghwpan Her Amlin pan fyddan nhw'n wynebu Caerlŷr y Sadwrn nesaf.
Roedd 'na fyd o wahaniaeth rhwng y ddau dîm a bydd rhaid i'r Gleision ddangos cryfder tebyg yn y dyfodol.
Y Gleision ennill yn anisgwyl yn erbyn Toulon yng Nghaerdydd yn yr hydref yn y gystadleuaeth ond methu wnaeth carfan Phil Davies i efelychu'r gamp.