Accrington Stanley 3-3 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Llwyddodd gôl chwaraewr canol cae Casnewydd, Lee Minshull yn yr amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm i roi pwynt iddyn nhw ar ôl teithio i wynebu Accrington Stanley yn Ail Adran Cynghrair Sky Bet.
Mae'r tîm cartref wedi bod yn brwydro tua gwaelod yr adran.
Ond y tîm cartref oedd ar y blaen o 3-2 cyn yr amser gafodd ei ganiatau am anafiadau cyn ergyd troed dde lwyddiannus Minshull.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen yn gynnar wedi 11 munud gyda Robbie Willmott yn canfod y rhwyd.
Fe ddaeth y tîm cartref yn ôl cyn yr egwyl gydag ergydion llwyddiannus Peter Murphy a Kal Naismith.
Ond yn yr ail hanner cafodd Ryan Burge gôl i'r ymwelwyr wedi 71 munud cyn i Murphy rwydo am yr eildro i roi'r tîm cartref ar y blaen.
Ond roedd gan Gasnewydd fwy i'w roi a doedd Accrington ddim am gael buddugoliaeth anisgwyl.
Straeon perthnasol
- 4 Ionawr 2014
- 29 Rhagfyr 2013