Caerfyrddin yn ennill Cwpan ar ôl ciciau o'r smotyn yn erbyn Y Bala
- Cyhoeddwyd

Caerfyddin gipiodd Cwpan Word eleni
Bu'n rhaid cael amser ychwanegol a chiciau o'r smotyn i benderfynu pwy fyddai'n codi Cwpan Word.
Wedi'r naw deg munud roedd hi'n ddi-sgôr rhwng Y Bala a Chaerfyrddin ar Goedlan Y Parc, Aberystwyth,
A doedd dim modd gwahannu'r timau wedi'r amser ychwanegol chwaith.
Ond Caerfyrddin oedd yn fuddugol o giciau o'r smotyn gan ddal eu gafael ar y gwpan am flwyddyn arall.
Dyma oedd y tro cyntaf i'r Bala gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Gynghrair yn eu hanes.
Roedd y ddau dîm yn gystadleuol yn yr hanner cyntaf ond doedd 'na fawr o gyfleoedd iddyn nhw.
Roedd Y Bala yn pwyso mwy yn yr ail hanner ac fe gafwyd sawl cyfle iddyn nhw fynd ar y blaen.
Ond gyda'r ddau dîm yn methu manteisio bu'n rhaid mynd am y ciciau o'r smotyn.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol