Caerdydd 0-2 West Ham United

Published
image copyrightGetty Images
image captionRoedd 'na bwysau ar y ddau reolwr cyn cychwyn y gêm

Caerdydd yn colli yn erbyn 10 dyn West Ham o 2-0 yng ngêm gartref gyntaf Ole Gunnar Solskjær fel rheolwr yr Adar Gleision.

Roedd hi'n gêm allweddol hefyd i reolwr West Ham, Sam Allardyce, sydd wedi wynebu dyddiau o ansicrwydd am ei ddyfodol gyda'r tîm yn cyrraedd y brif ddinas yn ail o'r gwaelod a thri phwynt y tu ôl i Gaerdydd.

Mae Caerdydd wedi syrthio i'r tri isa' yn yr Uwch Gynghrair wedi'r golled yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Llwyddodd yr ymwelwyr i oroesi anaf difriol i Guy Demel yn y chwarter awr cyntaf.

Fe ddaeth gôl gyntaf yr ymwelwyr i Carlton Cole wrth iddo ergydio wedi 42 munud.

Daeth yr ail gôl i Mark Noble wedi 92 munud i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair mewn saith gêm.

Bellamy a Carroll nôl

Bu'r ymwelwyr yn chwarae'r hanner awr ola' gyda 10 dyn ar ôl i James Tomkins weld ail gerdyn melyn am drosedd ddifrifol a allai fod wedi bod yn gerdyn coch yn syth.

Doedd hi ddim y dechreuad gorau i reolwr newydd Caerdydd ar ei ymddangosiad cyntaf o flaen y dorf cartref.

Er bod Andy Carroll wedi dod ymlaen fel eilydd i'r Hammers wedi wyth mis o absenoldeb oherwydd anaf, doedd hi ddim yn brynhawn perffaith i'r ymwelwyr chwaith.

Cafodd Demel anaf cas i'w ben wrth iddo herio Fraizer Campbell.

Cafodd ei gario oddi ar y cae ar ôl cael ocsigen a choler a doedd colli Tomkins ar ôl ei dacl beryglus ar Campbell ddim yn gymorth i'r ymwelwyr.

Yn yr ail hanner fe ddaeth cyn gapten Cymru, Craig Bellamy, i'r maes fel eilydd wedi absenoldeb o ddau fis.

Er i Solskjær gychwyn ei yrfa fel rheolwr yr Adar Gleision gyda buddugoliaeth yn erbyn Newcastle yr wythnos diwethaf yng Nghwpan yr FA bydd yn rhaid iddo aros am ei fuddugoliaeth gyntaf gartref.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol