Manchester United 2-0 Abertawe
- Published
Fe wnaeth rhediad gwael diweddar Manchester United ddod i ben gyda buddugoliaeth yn erbyn Abertawe yn Old Trafford.
Pe bai Abertawe wedi trechu hwn fyddai'r tro cyntaf ers 1961 i Manchester United golli pedair gêm yn olynol.
Dydd Sul diwethaf fe lwyddodd Abertawe i guro'r tîm o Fanceinion yng Nghwpan yr FA.
Ond roedd perfformiad dydd Sadwrn yn un llawer gwell gan y tîm cartref.
United gafodd y cyfleoedd gorau i sgorio yn yr hanner cyntaf ond roedd Abertawe yn gyffyrddus ar y bêl.
Daeth Jonjo Shelvey yn agos ond ei ergyd yn mynd heibio'r postyn.
Aeth United ar y blaen wedi'r egwyl, Valencia yn manteisio o beniad Kagawa.
Yna 12 munud yn ddiweddarach roedd y tîm cartref 2-0 ar blaen, Welbeck yn sgorio ei nawfed gol o'r tymor.
Dywedodd Michael Laudrup fod ildio gôl ar ôl 90 eiliad o'r ail hanner wedi gwneud pethau'n anodd iawn.
"Nawr mae'n rhaid i ni gael chwaraewyr sydd wedi eu hanafu yn ôl yn ffit ac ennill y gêm nesaf. Rwy'n credu mai dim ond 13 o chwaraewyr ffit sydd ar gael ond bydd yn rhaid gweld beth sy'n digwydd yn ystod yr wythnos."
Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn safle 13 yn y gynghrair.
Dim ond tri phwynt sy'n eu gwahanu nhw â Chaerdydd, un o'r tri tîm sydd ar waelod yr Uwchgynghrair.
Straeon perthnasol
- Published
- 5 Ionawr 2014
- Published
- 1 Ionawr 2014
- Published
- 28 Rhagfyr 2013
- Published
- 26 Rhagfyr 2013