Arestio pedwar o bobl ar amheuaeth o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl ymosodiad ar ddyn 27 oed mewn tŷ yn Nhrinant ger Trecelyn nos Sadwrn.
Aed â'r dyn i Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd, lle bu farw.
Mae dau ddyn 26 oed, a dwy fenyw, un yn 30 a'r llall yn 22 oed, yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Mae'r pedwar cafodd eu harestio yn byw yn ardal Trecelyn.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ am 7.30pm.
Dywed yr heddlu y dylai unrhyw un syddag ag unrhyw wybodaeth gysylltu â nhw ar 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 384 11/1/14.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol