BBC Cymru Fyw

Gweilch 17 -29 Northampton

Published
image copyrightGetty Images
image captionGeroge North yn ymosod

Mae Northampton wedi symud i'r ail safle yn Grŵp Un o Gwpan Heineken ar ôl curo'r Gweilch.

Yr ymwelwyr oedd ar y blaen 17-6 ar yr egwyl.

Samu Manoa wnaeth groesi am y cais cyntaf, gyda Stephen Myler yn ychwanegu'r ddau bwynt. Roedd Myler hefyd yn llwyddiannus gyda chic gosb cyn i Dan Biggar daro nôl gyda dwy gic gosb.

Daeth cais arall yr hanner cyntaf i Christian Day.

Yn yr ail hanner roedd y Gweilch yn bygwth taro nôl ar ôl trosgais a chic gosb gan Biggar, ond fe groesodd Ben Foden i wneud y gêm yn ddiogel i Northampton.