Cyngor Penfro yn trafod addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Sir Penfro'n trafod dyfodol addysg Gymraeg ddydd Llun.
Cafodd y cyngor ei feirniadu gan Estyn yn 2012 am fethu â mesur y galw am addysg cyfrwng Gymraeg gan fod hyn yn golygu nad oedd yn bosib iddyn nhw gynllunio'n effeithiol.
Yn ogystal mae Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi cwyno oherwydd eu bod nhw'n teimlo bod y cyngor wedi bod yn rhy araf yn cyflwyno cynllun.
Yn ôl y cynghorydd Huw George, sydd yn gyfrifol am faterion sy'n ymwneud â'r iaith ar y cabinet, y nod yw rhoi'r cyfle i bob disgybl dderbyn addysg yn Gymraeg os mai dyna yw ei ddymuniad.
Dywedodd wrth y Post Cyntaf ar Radio Cymru: "Beth y'n ni am 'neud yw cynnig cyfleon i blant fel pe baen nhw eisiau derbyn eu haddysg yn Gymraeg rhywle yn y sir, bod modd gwneud hynny, ac er mwyn hynny mae'n rhaid mesur galw.
"Beth y'n ni'n gobeithio 'neud, pe bai'r cabinet yn cytuno - ac rwy'n ffyddiog bod cabinet yn gefnogol beth bynnag - yw edrych ar yr hyn sydd ar gael ac yn datblygu'r hyn sydd ar gael i'r dyfodol ac yn ymgynghori gyda ysgolion, rhieni a pobl ifanc a gweld beth yw'r ffordd ymlaen.
"Fydda i'n gwthio'r peth 'mlaen i sicrhau bod hyn yn digwydd yn gyflym.
"Y nod yw bod yna gyfle i bob plentyn sydd am dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i'w derbyn yn Sir Benfro, dyna yw'r nod sydd 'da fi a dwi'n gobeithio mai dyna'r nod fydd gyda'r cabinet wrth symud ymlaen."
Doedd Mr George ddim yn fodlon ymrwymo'r cyngor i godi ysgolion cyfrwng Gymraeg newydd, gan ddadlau bod angen mesur y galw yn gyntaf.
Dyw'r galw heb fod yn cael ei fesur yn y gorffennol, fel y gwnaeth Estyn ei ddangos mewn adroddiad yn Rhagfyr 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd24 Mai 2013
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd25 Awst 2011