Achos Trecelyn: Dyn ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd
Roedd Ian Davies yn 27 oed
Mae dyn 26 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae'r heddlu'n dal i holi tri arall - dyn 26 oed, dynes 22 oed a dynes arall 30 oed - gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Bu farw Ian Davies, 27 oed, ddydd Sadwrn wedi ymosodiad yn Nhrecelyn.
Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i Ffordd Marshfield yn Nhrinant tua 7.30yh nos Sadwrn.
Cafodd Mr Davies ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd, lle bu farw.
Fe wnaeth yr heddlu arestio'r pedwar fore Sul.
Straeon perthnasol
- 13 Ionawr 2014
- 12 Ionawr 2014