Pallial: Arestio 19eg person
- Cyhoeddwyd

Cafodd y dyn 76 oed ei ryddhau ar fechnïaeth hyd at Ebrill 2014
Mae swyddogion yr Asiantaeth Droseddau Brydeinig wedi arestio person arall fel rhan o Ymgyrch Pallial sy'n ymchwilio i honiadau o droseddau rhyw hanesyddol yng ngogledd Cymru.
Cafodd dyn 71 oed o ardal Ellesmere Port, Sir Caer, ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar ddau fachgen.
Fo yw'r 19eg person i gael ei arestio.
Mae'r heddlu'n credu fod y troseddau honedig wedi digwydd rhwng 1977 ac 1985 pan oedd y bechgyn yn 13 a 15 oed.
Cafodd y dyn ei gludo i orsaf heddlu leol cyn cael ei holi gan swyddogion sy'n gweithio ar Ymgyrch Pallial.
Does dim rhagor o fanylion wedi'u cyhoeddi ynglŷn â'r honiadau.
Hyd yma mae un person wedi cael ei gyhuddo o nifer o droseddau rhywiol difrifol.
Straeon perthnasol
- 20 Tachwedd 2013
- 6 Tachwedd 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol