Diffyg gwasanaethau iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg

Mae merch sydd wedi dioddef salwch meddwl yn anhapus efo'r diffyg gwasanaethau arbenigol sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe dreuliodd Malan Wilkinson dri mis yn uned seiciatryddol Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, y llynedd, wedi iddi syrthio i "bwl o iselder dwys" lle roedd wedi ystyried terfynu ei bywyd.

Er ei bod yn fodlon gyda'r gofal yno, fe gafodd sioc i sylweddoli bod diffyg arbenigwyr cyfrwng Cymraeg.

Mae'n debyg mai un seicolegydd Cymraeg ei iaith sydd yn holl ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y Gogledd, ac mewn rhai byrddau, mae'r sefyllfa'n waeth fyth.

Mae'r bwrdd yn cydnabod bod adegau lle nad ydynt yn gallu darparu gwasanaeth cwbl ddwy-ieithog, ond mae'n nhw'n dweud eu bod yn gweithio i wella'r sefyllfa.

Profiad Malan

Image caption Fe dreuliodd Malan Wilkinson dri mis yn uned seiciatryddol Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, y llynedd, wedi iddi syrthio i "bwl o iselder dwys" lle roedd wedi ystyried terfynu ei bywyd.

Ar rhaglen 'Dan yr Wyneb' ar Radio Cymru nos Lun, bu Malan Wilkinson yn sôn am ei phrofiad personol wrth Dylan Iorwerth.

"Dechrau mis Hydref, mi wnes i ddisgyn i rhyw bwl o anobeithrwydd ac iselder dwys - mi o'n cwffio neu'n brwydro efo syniadau mawr sy'n golygu dim byd llai na phenderfynu o'n i'n mynd i derfynu fy mywyd fy hun ai peidio."

Fe gyrhaeddodd bwynt lle roedd yn rhaid iddi siarad efo rhywun.

Fe aeth i weld ei therapydd gwybyddol yn ei meddygfa lleol ac roedd gwely iddi hi yn Hergest erbyn y noson honno.

Roedd y tri mis a dreuliodd yn uned Hergest yn "broses hir a phoenus" ac er ei bod yn hapus gyda'r gwasanaeth a'r gofal, fe gafodd sioc i sylweddoli bod diffyg arbenigwyr cyfrwng Cymraeg ar gael.

"Roedd 'na dipyn o Gymraeg o ran gofalwyr ond ddim o ran staff meddygol - yn seiciatryddion a seicolegwyr," meddai.

"Dwi'n gweithio ar hyn o bryd efo'r unig seicolegydd Cymraeg i oedolion yng Ngogledd Cymru, ac mi roedd ffeindio bod 'na ffasiwn brinder mewn seicolegwyr Cymraeg yn sioc enfawr i mi, a ddim yn rywbeth chwaith oedd yn gwneud i mi deimlo'n gyfforddus fel claf cyfrwng Cymraeg."

Therapi arbenigol

Image caption Roedd y tri mis a dreuliodd Malan Wilkinson yn uned Hergest, Ysbyty Gwynedd yn "broses hir a phoenus".

Bu Malan yn derbyn therapi arbenigol sy'n torri patrymau ymddygiad, triniaeth sy'n gofyn am arbenigwyr sy'n deall y maes.

Mae'n teimlo bod gallu derbyn triniaeth fel hyn drwy gyfrwng y Gymraeg yn hollbwysig.

Dywedodd: "Mae mynegiant yn elfen gwbl hanfodol o therapi. A dydy rhywun ddim ishe bod yn eistedd o flaen seicolegydd yn chwilio am eiriau neu'n poeni am gystrawen."

"Mae rhywun ishe gallu mynegi'i hunan yn yn y ffordd sy' fwyaf naturiol. Felly, fyswn i'n deud bod gallu cynnal a mwynhau therapi yn ein mamiath yn gwbl hanfodol os am wneud y gorau o'r gwasanaeth."

Roedd hi'n teimlo ei bod hi mor bwysig iddi dderbyn y driniaeth yn y Gymraeg ac yn gweld gwahaniaeth mawr rhwng trafod pethau'n Saesneg ac yn y Gymraeg.

Mae'n dweud ei bod yn teimlo'n lwcus iddi gael trafod gyda'r unig seicolegydd Cymraeg.

"Ond mewn ffordd, dylwn i ddim teimlo fy mod i'n lwcus, bo' fi ar ofyn y lleiafrif. Dylai fod yn hawl i gael y gwasanaeth yn ein hiaith ein hunain, ond doedd o jyst ddim yn teimlo felly ar y pryd."

'Hollol hanfodol'

Mae'n dadlau ei bod hi'n fwy pwysig i gael gwasanaeth Cymraeg wrth drafod salwch meddwl yn hytrach na salwch corfforol.

"Mae'r ochr emosiynol yn ddwys, ac mae'n rhaid siarad am deimladau, ymddygiad, emosiynau… mae'r pethau yna i gyd yn cael eu cyfleu drwy fynegiant, drwy eiriau, yn aml iawn.

"'Swn i'n dadlau bod hi'n hollol hanfodol bod y gwasanaeth yna drwy gyfrwng y Gymraeg. Dim ond wedyn fedr rhywun ymollwng yn llwyr…."

"…'Dan ni ddim yn siarad am ddim byd llai yn fan hyn nag ystyried bywyd a marwolaeth."

"Dyna pam es i Hergest ar ddiwedd y dydd, am fy mod i'n brwydro efo'r syniad yna o derfynu fy mywyd fy hun ai peidio ac mae gallu gweithio efo therapydd a mynegi'r teimladau dwys hynny yn anodd ond mae gorfod gwneud hynny drwy ail iaith neu yn Saesneg yn anoddach fyth."

"Dwi'n hollol grediniol y gallai (derbyn triniaeth yn y Gymraeg neu'r Saesneg) wneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth."

Ymateb

Mae Bwrdd Iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cydnabod bod adegau pan fo cynnal gwasanaeth gwbl ddwy-ieithog yn amhosib.

Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd: "Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi nifer o staff sy'n siarad Cymraeg yn ei wasanaethau iechyd meddwl ledled Gwynedd ac Ynys Môn, yn cynnwys seicloegydd.

"Felly, gellir cynnig llawer o wasanaethau yn y Gymraeg neu'r Saesneg yn dibynnu ar ddewis y claf ..."

"Pan fo sesiynau therapi grwp yn cael eu cynnal, rhaid ystyried dewis iaith a gallu pob aelod o'r grwp, ac ar adegau, gall hyn gynnwys aelodau nad ydynt yn siarad Cymraeg.

"Rydym yn cydnabod bod adegau pan nad ydym yn gallu darparu gwasanaeth gwbl ddwyieithog, ac rydym yn ceisio mynd i'r afael â hyn drwy'n harferion recriwtio a'n gwaith i annog staff i ddysgu'r Gymraeg ac i fod yn fwy hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle."

Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi dweud bod fframwaith newydd wedi ei lansio i wella'r cyfleoedd am wasanaethau iaith Gymraeg.

Dywedodd bod cael defnyddio iaith eu dewis yn elfen pwysig o ofal siaradwyr Cymraeg, a bod yr iaith yn un o'r pedwar maes blaenoriaeth sydd wedi eu nodi yn y fframwaith.

Ychwanegodd: "Mae mentrau iaith Gymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnwys datblygu llwybr defnyddwyr, gwasanaeth ddwyieithog ar gyfer paru defnyddwyr gwasanaethau Cymraeg eu hiaith â gweithwyr iechyd meddwl dwy-ieithog.

"Nodir bod y Gymraeg yn hanfodol wrth hysbysebu swyddi, i fynd i'r afael a diffygion iethyddol mewn rhai meysydd, a chynhelir cyrsiau hyfforddi i gynyddu ymwybyddiaeth a sgiliau staff."

I wrando eto ar y rhaglen, ac i glywed ymateb yr Aelod Cynulliad, Alun Ffred Jones, a Gwyneth John, sydd wedi ymddeol fel therapydd seciolegydd ar ôl 40 mlynedd, cliciwch yma