Tân mewn tŷ mawr yn Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr yn ceisio mynd i'r afael â thân mewn tŷ mawr yn Sir Fynwy.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r eiddo dau lawr yn Nhredynwg ger Llanhenog am tua 6:30pm ddydd Mawrth.
Yn ôl adroddiadau roedd fflamau i'w gweld drwy'r to.
Mae cyfanswm o wyth o griwiau o ddiffoddwyr ar y safle o Gwmbrân, Brynbuga, Caerffili, Dyffryn, New Inn, Malpas a Maendy.
Bu'n rhaid i ddiffoddwyr ddefnyddio offer anadlu arbennig i gael mynediad i'r safle.
Does dim adroddiad am unrhyw anafiadau, ac fe gredir bod yr eiddo yn y broses o gael ei adeiladu.