Atal lledaenu norofeirws trwy osgoi ymweliadau â ysbytai
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyhoedd yn cael eu cynghori i osgoi ymweliadau â wardiau ysbytai dros yr wythnosau nesaf i helpu atal lledaenu norofeirws.
Ddylai pobl ddim mynd i'r wardiau oni bai bod hynny'n hollol angenrheidiol.
Tra bod y sefyllfa'n gwella, mae dwy ysbyty o fewn ardal Caerdydd a'r Fro gyda sawl achos bosib o'r haint.
Mae dwy ward yn parhau ar gau yn Ysbyty Llandochau ym Mro Morgannwg yn ogystal â rhannau o ddwy ward yn Ysbyty'r Brifysgol, Caerdydd.
Yn ardal Abertawe, mae dwy ward yn Ysbyty Treforus ar gau ac un ward yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot oherwydd achosion o daflu i fyny ac o ddolur rhydd.
Cyngor i gadw draw
Mae Dr Eleri Davies, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi diolch i'r cyhoedd am gydweithio gyda'r ysbytai ac yn atgoffa pobl sydd wedi dioddef symtomau i osgoi ysbytai a chanolfannau iechyd am o leiaf 48 awr.
"Mae'n anodd iawn i atal lledaenu norofeirws unwaith mae yn yr ysbyty felly rydym yn gofyn i'r cyhoedd ein cefnogi drwy osgoi ymweld â wardiau oni bai bod hynny'n hollol angenrheidiol."
"Os ydych chi yn ymweld â ffrindiau neu deulu yn yr ysbyty, yna plis, dilynwch y cyngor yn y mynedfeydd i'r wardiau a dilyn y canllawiau hylendid dwylo."
"Os oes ganddoch chi apwyntiad fel claf allanol a'ch bod chi'n dangos dim arwyddion o'r feirws, yna mi fedrwch chi fynd i'ch apwyntiad fel a drefnwyd."
Ychwanegodd Dr Davies, "Os ydych chi'n dioddef o symtomau o chwydu ac o ddolur rhydd ac yn teimlo bod angen gweld meddyg neu fynd i'r ysbyty, cofiwch ddweud wrth y feddygfa neu'r ysbyty am eich cyflwr, yn ddelfrydol dros y ffôn, cyn mynd."
Mae norofeirws yn feirws hynod o heintus sy'n achosi cyfogi, chwydu a dolur rhydd.
Mae'r symtomau yn dechrau rhyw 12 - 48 awr ar ôl heintio ac yn para rhwng 12 a 60 o oriau.
Straeon perthnasol
- 6 Ionawr 2014