Gwerthiant tai yn cyrraedd ei lefel ucha' ers 2008
- Published
Mae adferiad y farchnad dai yng Nghymru yn parhau wrth i nifer y tai a werthwyd yma dros y mis diwethaf aros yn gryf.
Yn ôl arolwg Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, roedd y nifer o dai a werthwyd gan bob syrfewr dros gyfnod y Nadolig yn 22 tŷ'r un ar gyfartaledd.
Mae hyn deirgwaith yn fwy na phan roedd y farchnad dai ar ei isaf yn Rhagfyr 2008, pan oedd saith o dai yn cael eu gwerthu gan bob syrfëwr ar gyfartaledd.
Gyda mwy o dai'n cael eu gwerthu, mae'r galw am dai rhent wedi arafu cryn dipyn wrth i'r rheiny fyddai'n rhentu dewis prynu.
Yn y cyfamser, mae'r Sefydliad yn dweud nad oes digon o dai yn dod ar y farchnad i ddiwallu'r galw, ac felly mae'r prisiau yn parhau i gynyddu.
Yn ystod mis Rhagfyr, roedd 19% o syrfewyr siartredig yng Nghymru'n cofnodi cynnydd ym mhrisiau tai.
Ffyddiog am 2014
Mae'r syrfewyr yn weddol hyderus am 2014, ac yn disgwyl i nifer y gwerthiannau a phrisiau tai gynyddu dros y flwyddyn.
Mae hyn yn deillio'n bennaf o'r ffaith bod y gofynion credyd wedi'u llacio gan ei gwneud hi'n haws i gael morgeisi, a'r diffyg cydbwysedd rhwng y cyflenwad a'r galw.
Yn ôl Tony Filice, cyfarwyddwr cwmni Kelvin Francis, Caerdydd: "Rydym yn cael trafferth dod o hyd i ddigon o dai i gyrraedd y galw uchel, yn arbennig am dai dwy lofft ar gyfer prynwyr cyntaf neu dai tair llofft traddodiadol."
Dywedodd Peter Bolton King, Cyfarwyddwr rhyngwladol RICS: "Mae'r farchnad dai yn dechrau ffynnu unwaith eto, gyda gwerthiant ar ei lefel uchaf ers bron chwe blynedd."
"Mwy o forgeisi fforddiadwy sydd i gyfri am hyn. Mae'n newyddion da ond oni bai ein bod yn gweld mwy o dai yn dod ar werth, fe fydd y cynnydd ym mhrisiau tai yn anghynaladwy mewn rhai ardaloedd."