Agwedd at ieithoedd lleiafrifol o dan y lach
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad newydd Cyngor Ewrop ar ieithoedd lleiafrifol yn y DU yn cyfeirio at y gostyngiad pryderus sydd 'na yn nifer y Cymry Cymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru.
Hefyd mae'n mynegi pryder mawr am y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
Adroddiad yw hwn sy'n ystyried sut mae Siarter Ewropeaidd ar Ieithoedd Lleiafrifol yn cael ei gweithredu mewn gwledydd ar draws Ewrop.
Mae llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi "cymryd camau positif" i amddiffyn yr iaith Gymraeg.
Nifer o bryderon
Er mai'r llywodraethau datganoledig sy'n gyfrifol am weithredu'r siartr yn eu gwledydd eu hunain, Llywodraeth San Steffan sydd â'r cyfrifoldeb yn y pen draw o dan ddeddfau rhyngwladol.
Un o gasgliadau'r adroddiad yw bod angen codi ymwybyddiaeth ymysg y mwyafrif Di-Gymraeg am ieithoedd lleiafrifol y DU fel rhan integredig o dreftadaeth ddiwylliannol y DU.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r pryder sydd wedi ei fynegi am y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yng nghadarnleoedd yr iaith yn y gogledd a'r gorllewin, a ddaeth i'r amlwg yng Nghyfrifiad 2011.
Fe gafodd Siarter Ewrop ar Ieithoedd Ranbarthol neu Leiafrifol (Y Siarter) ei harwyddo gan Lywodraeth y DU yn 2001, ond mae dau adroddiad gan y llywodraeth honno i Gyngor Ewrop ers hynny wedi cael eu cyflwyno'n hwyr, gyda'r wybodaeth yn anghyflawn.
Cafodd adroddiad Cyngor Ewrop ei baratoi gan Bwyllgor o Arbenigwyr. Mae'n ystyried nifer o feysydd yn eu tro, ac fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth gan ystod eang o grwpiau a mudiadau perthnasol.
Un o'r meysydd sy'n destun pryder i'r pwyllgor yw gofal cymdeithasol, ac fe ddywed yr adroddiad:
"Yn dilyn trafodaethau gyda grwpiau perthnasol yn 2010 fe benderfynodd Llywodraeth Cymru ddatblygu fframwaith strategol i gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg o fewn iechyd a gofal cymdeithasol.
"Er gwaetha' nifer o welliannau mae pryder sylweddol o hyd am y sefyllfa ar lawr gwlad, ac mae Comisiynydd y Gymraeg wedi lansio ymchwiliad statudol i'r defnydd o'r Gymraeg yn y meysydd yma."
Argymhelliad Pwyllgor yr Arbenigwyr oedd y dylid "sicrhau bod adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg".
'Newid cydbwysedd ieithyddol'
Mae'r adroddiad hefyd yn son am yr anghytuno ynglŷn â'r safonau gafodd eu hargymell gan y Comisiynydd.
Cafodd yr argymhellion eu gwrthod gan weinidogion Bae Caerdydd, ond mae'r adroddiad yn nodi bod Llywodraeth Cymru'n rhagweld y byddan nhw mewn lle erbyn Tachwedd 2014.
Ond fe ddaeth un o bryderon mwyaf yr adroddiad wrth sôn am fewnlifiad, ac effaith hynny ar nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd.
Dywed yr adroddiad: "Mae'r ffigyrau a gafwyd mewn tystiolaeth yn awgrymu bod nifer y bobl Ddi-Gymraeg sy'n symud i'r ardaloedd yma yn achosi newid yn y cydbwysedd ieithyddol.
"Yn y gorffennol byddai newydd-ddyfodiaid fel hyn wedi ymdoddi i'r cymunedau drwy ddysgu'r iaith, yn aml gyda chymorth rhaglenni addysgol arbennig gan yr awdurdodau.
"Wrth edrych ar y ffigyrau diweddaraf y pryder yw nad yw'r adnoddau sy'n cael eu clustnodi i'r dulliau yma yn ddigonol oherwydd maint y mewnlifiad."
Yn y maes yma argymhelliad y Pwyllgor oedd "i ddarparu adnoddau sy'n galluogi pobl sydd ddim yn siarad iaith leiafrifol ac yn byw mewn ardal lle mae'n cael ei defnyddio i ddysgu'r iaith os ydyn nhw am wneud hynny".
'Cyfrifoldebau'
Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi nad yw'r galw am addysg gynradd Gymraeg yn cael ei ateb mewn rhannau o Gymru, ac roedd mwy o feirniadaeth o awdurdodau lleol mewn rhan arall o'r adroddiad sy'n dweud:
"Yn ystod ymweliadau dirybudd fe gafodd Pwyllgor yr Arbenigwyr wybod bod awdurdodau lleol yn ymddangos yn ddwyieithog ar yr wyneb ond ei bod yn aml yn amhosib defnyddio'r Gymraeg ar lafar gyda'r awdurdodau.
"Roedd grwpiau perthnasol yn teimlo fod gwagle'n bodoli wrth i'r safonau iaith newydd gael eu paratoi, a'r teimlad oedd nad oedd rhai awdurdodau lleol bellach yn cymryd eu cyfrifoldebau o dan eu cynlluniau iaith o ddifri."
Roedd gan yr adroddiad nifer o argymhellion yn y maes yma, gan gynnwys :-
- Defnyddio ieithoedd lleiafrifol o fewn fframwaith awdurdod lleol neu ranbarthol;
- Caniatáu i ddefnyddwyr ieithoedd lleiafrifol wneud cyflwyniadau ysgrifenedig neu ar lafar yn yr ieithoedd yna;
- Cyhoeddi dogfennau swyddogol gan awdurdodau lleol yn yr iaith leiafrifol berthnasol;
- Y defnydd o ieithoedd lleiafrifol gan awdurdodau lleol mewn trafodaethau neu gyfarfodydd heb eithrio'r defnydd o iaith swyddogol y wladwriaeth.
Mae llawer i gnoi cil drosto yn yr adroddiad, ac mae disgwyl i'r awdurdodau perthnasol wneud hynny cyn ystyried eu hymateb i'r ddogfen.
'Camau positif'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i amddiffyn yr iaith, ond eu bod yn croesawu adroddiad y cyngor.
"Rydym yn cymryd camau positif yng Nghymru i fynd i'r afael a'r cwestiynau gafodd eu gofyn gan ganlyniadau'r Cyfrifiad yn 2011," meddai llefarydd.
"Yn yr haf y llynedd fe wnaethon ni gynnal sgwrs genedlaethol am yr iaith, gyda phobl o bob rhan o fywyd yng Nghymru yn cyfrannu.
"Rydym hefyd wedi derbyn adroddiad gan dasglu yn edrych ar ffyrdd o gynyddu niferoedd y cymunedau Cymraeg eu hiaith mewn ardaloedd lle mae defnydd yr iaith yn lleihau, a byddwn yn ymateb i hwnnw yn fuan."
Dywedodd y llefarydd hefyd bod y llywodraeth wedi gweithredu dwy strategaeth i geisio hybu defnydd yr iaith ym myd iechyd ac addysg.
Ychwanegodd: "Dyma rai o'r camau rydym yn eu cymryd, a tra ein bod wedi ymrwymo i arwain y gwaith o alluogi pobl i ddefnyddio'r iaith, mae angen i bawb yng Nghymru ddeall y rol bwysig y maen nhw'n ei chwarae mewn hybu'r iaith a sicrhau ei fod yn ffynnu dros Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2013