Corff yn Afon Taf: Enwi dyn
- Cyhoeddwyd

Roedd Ashley wedi bod ar goll ers iddo adael ei gartref yn Gabalfa ar Ionawr 5
Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw'r dyn y cafwyd hyd i'w gorff yn yr Afon Taf ger Parc Hailey yn Llandaf.
Roedd Ashley Wells, 26 oed o Gabalfa, ar goll ers bore Sul, Ionawr 5.
Cafodd Heddlu eu galw oddeutu 2yh ddydd Mawrth, Ionawr 14, a chafodd teulu Mr Wells wybod am y datblygiad.
Cafodd y corff ei adnabod yn swyddogol brynhawn dydd Iau.
Does dim amgylchiadau amheus a bydd cwest yn cael ei gynnal yn y man.
Straeon perthnasol
- 14 Ionawr 2014
- 13 Ionawr 2014