Cwest: Yn fwy na 40 munud yn aros am ambiwlans

  • Cyhoeddwyd
Fred Pring
Disgrifiad o’r llun,
Bu Fred Pring farw wedi pedair galwad ffôn 999.

Mae cwest wedi clywed bod dyn wedi marw fwy na 40 munud ar ôl i'w wraig ffonio am ambiwlans.

Clywodd y cwest yn Rhuthun bedair galwad ffôn 999 gwraig oedd wedi dweud bod ei gŵr yn dioddef o boenau clefyd y galon.

Ffoniodd gwraig Fred Pring, Joyce, bedair gwaith am ambiwlans cyn i dri gyrraedd y cartref ond erbyn hynny roedd hi'n rhy hwyr .

Roedd y dyn 74 oed o Fynydd Isaf ger Yr Wyddgrug wedi datblygu poenau yn ei galon fis Mawrth diwethaf.

Mae'r cwest wedi clywed cyfres o alwadau ffôn wedi eu recordio lle mae Mrs Pring yn disgrifio poen cynyddol ei gŵr.

Pedair galwad

Yn yr alwad gyntaf mae hi'n dawel a di-gynnwrf wrth ddisgrifio poenau ei gŵr yn ei frest.

Yna mae'r person ochr arall y ffôn yn dweud y bydd ambiwlans yno cyn gynted â phosib ac y dylai'r gŵr gymryd pedwar tabled lladd poen, peidio bwyta dim byd a ffonio'n ôl os yw'n gwaethygu.

Mae'r ail alwad 10 munud yn ddiweddarach a Mrs Pring yn amlwg mewn panig gan ei bod yn dweud bod cyflwr ei gŵr yn gwaethygu.

Mae i'w glywed yn gweiddi yn y cefndir ac mae ei wraig yn dweud: "Mae mewn poen".

Dywedodd y crwner, John Gittins, fod y dystiolaeth yn "boenus iawn ac yn arswydus ...".

Ugain munud yn ddiweddarach, yn y drydedd alwad, mae Mrs Pring yn ateb nifer o gwestiynau eto am gyflwr ei gŵr ond yn dweud mai'r unig beth mae hi eisiau ei wybod yw pryd y bydd yr ambiwlans yn cyrraedd.

Mae'n cael gwybod y bydd y criw ambiwlans "yno cyn gynted â phosib" ac yn cael ymddiheuriad bod y gwasanaeth wedi bod yn brysur iawn yn r ardal.

'Wedi marw'

Erbyn y bedwaredd alwad, yr un olaf, mae hi'n dweud: "Dyma'r pedwerydd tro i mi ffonio - dwi'n credu bod fy ngŵr wedi marw.

"Mae'n rhy hwyr rwan, mae 'di mynd."

Er gwaethaf cyngor y person ar y ffôn, mae Mrs Pring yn dweud: "Na, doedd o'n methu cymryd y poen mwyach."

Pan ofynnodd hi beth oedd y targed ymateb i alwadau brys, fe ddywedwyd wrthi ei "fod yn dibynnu".

Yna fe wnaeth Mrs Pring roi'r ffôn i lawr.

Cyflwr cronig

Yn y cwest roedd hi wedi gadael yr ystafell tra bod y galwadau ffôn yn cael eu chwarae ond fe ddaeth yn ôl i roi tystiolaeth.

Dywedodd bod ei gŵr wedi bod yn dioddef o COPD, cyflwr cronig ar yr ysgyfaint, ers sawl blwyddyn ac wedi bod yn cael triniaeth.

Roedd wedi gorfod ffonio am ambiwlans o'r blaen, meddai, ac roedd wedi cymryd sbel i gyrraedd.

Dywedodd ei bod "yn poeni y byddai'n digwydd eto, gan ei bod hi yn yr oriau mân."

'Diffyg tosturi'

Soniodd am yr ail a'r drydedd alwad a'i bod wedi gorfod symud i ystafell arall oddi wrth ei gŵr gan nad oedd hi am iddo'i chlywed hi yn dweud bod ei gyflwr yn gwaethygu.

Ond roedd hi'n poeni bod mwy o amser yn ateb cwestiynau yn golygu amser i ffwrdd oddi wrtho fo.

Fe ddywedodd bod "diffyg tosturi sylweddol" gan y person ben arall y ffôn, yn enwedig yn y bedwaredd alwad pan ddywedodd bod ei gŵr wedi marw.

Fe ofynnwyd iddi symud ei gŵr er mwyn cadw'i bibell wynt yn glir, a dywedodd "fe ges i sioc fod rhywun yn gofyn i mi wneud hyn".

"Mi ddywedais i sawl tro na fedrwn i yn gorfforol ei symud ac nad oedd pwynt beth bynnag gan ei fod eisoes wedi marw," ychwanegodd.

Gofynnodd y crwner, John Gittins, a oedd hi am iddo baratoi adroddiad yn cynghori pa wersi allai gael eu dysgu.

Dywedodd hi: "Mi faswn i'n hoffi meddwl hynny (y byddai gwersi'n cael eu dysgu) ... Dwi'n credu y bydd achosion tebyg yn digwydd yn y dyfodol."

'Prysur iawn'

Fe glywodd y cwest ddatganiad dau barafeddyg, y rhai cyntaf i gyrraedd tŷ Mr Pring.

Fe ddisgrifion nhw eu shifft fel un "brysur iawn" a'u bod wedi cael "galwad ar ôl galwad".

Dywedodd y ddau fod fod galwad olaf y criw y noson honno cyn cael eu gofyn i fynd i dŷ Mr Pring yn golygu "mynd â chlaf i Ysbyty Maelor Wrecsam" lle roedd "oedi sylweddol wrth drosglwyddo'r claf".

"Doedden ni ddim yn cael mynd â'r claf i mewn i'r ysbyty tan i ni gael ein galw."

Dywedodd Michael Bennett eu bod wedi bod yn aros 99 munud y tu allan i'r ysbyty cyn gallu trosglwyddo'r claf i'w gofal.

A dywedodd y dyn ambiwlans arall, Clwyd Richards, ei bod hi'n noson brysur.

Union cyn derbyn yr alwad i fynd i dŷ Mr Pring roedden nhw wedi treulio awr mewn tŷ yn Ewlo "lle roedd teulu yn mynnu bod gwraig yn cael ei chudo i ysbyty preifat".

"Fe ffoniwyd Ysbyty Yale yn Wrecsam ond roedd pob cam ar gau i ni. Fe ges i fy mygwth gyda chyllell ar un pwynt. Dim ond pan gytunodd y gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau ddod draw yr oedd y teulu yn hapus i ni adael."

'Pentyrru'

Clywodd y cwest fod yr heddwas, Jonathan Ashton, wedi cyrraedd tŷ Mr Pring yn fuan wedi'r gwasanaeth ambiwlans.

Dywedodd bod un o aelodau'r criw, Clwyd Richards, wedi dweud: "Dwi'n teimlo cywilydd am hyn, ond mae siawns y gallen ni fod wedi'i achub petaen ni wedi cyrraedd yn gynt."

Ychwanegodd bod Mr Richards wedi sôn am y noson brysur a bod ambiwlansys "wedi'u pentyrru" yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Roedd Mr Richard wedi dweud hyn yn gynharach yn y gwrandawiad - er nad oedd yn gwadu dweud y gallen nhw fod wedi achub Mr Pring petaen nhw wedi cyrraedd yn gynt, doedd o ddim yn swnio fel rhywbeth y byddai wedi'i ddweud.

Dywedodd cardiolegydd Mr Pring: "Petai'r ambiwlans wedi cyrraedd wedi'r alwad gyntaf ... byddai wedi byw."

Yn ôl Dr Raj Thaman, byddai wedi disgwyl i'r ambiwlans fod yno o fewn chwe munud.

Roedd Mr Pring, meddai, yn "ddyn sâl iawn".