Dyn o Flaenau Ffestiniog yn euog o droseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr achos yn Llys y Goron Caernarfon

Mae dyn 53 oed o Flaenau Ffestiniog yn euog o 15 trosedd yn ymwneud â lluniau anweddus o blant.

Treuliodd y rheithgor ryw awr a hanner cyn penderfynu.

Roedd Derek Williams wedi gwadu'r cyhuddiadau ac eisoes wedi cyfaddef lawrlwytho lluniau anweddus yn ymwneud ag anifeiliaid.

Mae'r Cofiadur Timothy Petts wedi gohirio dedfryd ond wedi rhybuddio bod carcharu'n "debygol iawn."

Mi glywodd Llys y Goron Caernarfon fod Williams wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o lawrlwytho delweddau anweddus o blant yn 2007.

Yn ystod yr achos diweddara', a barodd am ddau ddiwrnod, dywedodd yr erlynydd, Sion ap Mihangel, fod 4,514 o luniau anweddus o gam-drin plant wedi cael eu darganfod.

Roedd rhai o'r lluniau'n waeth na'i gilydd.

10,251 o fideos

Clywodd y llys fod ganddo 200 o luniau a 10,251 o fideos o anifeiliaid yn cael eu cam-drin.

Pan gafodd ei arestio'r llynedd dywedodd wrth dditectifs ei fod yn treulio tua 12 awr y dydd ar ei gyfrifiadur.

Dywedodd yr erlynydd fod y diffynnydd wedi honni bod rhywun arall wedi lawrlwytho'r deunydd pornograffig o blant i'w gyfrifiadur.

Dywedodd arbenigwr cyfrifiadurol fod y mwyafrif o'r delweddau o ferched rhwng saith a 13 oed.