Gwynedd: Casglu biniau bob tair wythnos?

  • Cyhoeddwyd
Tirlenwi
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cyngor Gwynedd angen lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi

Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried casglu biniau gwastraff bob tair wythnos yn hytrach na phob pythefnos.

Y nod fyddai lleihau'r effaith ar yr amgylchedd a galluogi'r cyngor i gyrraedd targedau amgylcheddol sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru.

Ond mae rhai trigolion lleol wedi bodi pryderon am y syniad, gan ddweud y gallai arwain at "lanast" ar y strydoedd a phroblemau gyda llygod mawr a phryfed.

Mae'r cyngor yn pwysleisio bod cyfle i'r cyhoedd ddweud eu dweud.

Targedau newydd

Mae targedau'r llywodraeth yn golygu bod angen i gynghorau ailgylchu neu gompostio 52% o'r gwastraff sy'n cael ei gasglu.

Dim ond cyrraedd y targed hwn o drwch blewyn wnaeth y cyngor yn ddiweddar a chan fod y targed yn codi i 58% yn 2016 maen nhw wedi penderfynu bod angen cymryd camau.

Ar raglen Taro'r Post dyweddodd y Cynghorydd Gareth Roberts: "Fuodd bron iawn, iawn 'leni i ni gael dirwy am beidio cyrraedd y targed, felly strategaeth er mwyn darganfod ffordd i gael cyfranogiad gwell ydi cyfyngu ar y bin gweddillion.

"Fyddwn ni'n cyfyngu dim ar yr ailgylchu ac mae rhai pobl yng Ngwynedd yn gwneud hyn yn arbennig o dda beth bynnag."

Dywedodd Eifion Hughes o Rachub fod y cynnig yn annerbyniol.

'Gwarth'

"Wel dwi'n credu ei fod yn warth o beth eu bod nhw'n neud o bob pythefnos," meddai wrth Garry Owen.

"Rydan ni'n talu digon o drethi, dydan? Mae golwg ddychrynllyd hyd y pentrefi achos pan mae'n amser rhoi sbwriel allan rhaid ei roi o allan noson cynt gan fod lori'n dod i'w nôl o erbyn chwech.

"Dydi pensiwniars fel fi ddim yn codi adag hynny ... doeddwn i ddim yn codi adeg hynna pan ro'n i'n gweithio ac mae cathod a cŵn syn rhydd yn y pentra yn gwneud llanast dychrynllyd."

Dywedodd Mr Roberts, sy'n gyfrifol am yr amgylchedd ar gabinet Cyngor Gwynedd,: Mae pobl yn cwyno eu bod nhw'n mynd i ddrewi, ond bwyd sy'n drewi ran fwya ac felly dylid ei roi yn y bocs gwastraff bwyd."

Dywedodd ei fod yn cydnabod y gallai cewynnau ac ati fod yn broblem i deuluoedd mawr efo nifer o blant ifanc a'i fod yn awyddus i glywed gan bobl sy'n rhagweld problemau o'r fath.

'Gwneud y peth iawn'

Ar Taro'r Post fe ddywedodd yr ymgynghorydd amgylcheddol Dr Tom Pritchard: "Y rheswm sylfaenol dros y syniad ydi defnyddio llai o dipio ar y tir er mwyn helpu efo'r amgylchedd yn gyffredninol.

"Mae'r rheswm yna a dwi'n meddwl bod Cyngor Gwynedd yn gwneud peth iawn yn y ffordd maen nhw'n mynd ati."

Gall unrhyw un sydd eisiau bod yn rhan o'r ymgynghroiad wneud hynny ar-lein, ar wefan Cyngor Gwynedd.