Dyfodol y DU: Undeb neu chwalu?

Carwyn Jones
Image caption Yn ôl Carwyn Jones nid oes raid i wladgarwch olygu annibyniaeth

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi rhybuddio San Steffan y bydd rhaid rhoi mwy o bwerau i'r Alban os ydyn nhw'n pleidleisio yn erbyn annibyniaeth, neu wynebu'r risg o refferendwm arall.

Cred Mr Jones yw y byddai ail refferendwm, o dan yr amgylchiadau hynny, yn debygol o arwain at bleidlais ie.

Fe siaradodd Leanne Wood, Kirsty Williams ac Andrew RT Davies - arweinwyr bob plaid yn y Cynulliad - yn ystod dadl yn y Senedd ar ddyfodol y Deyrnas Unedig, gan gyflwyno darluniau gwahanol iawn o'r Deyrnas Unedig a lle Cymru ynddi.

Y Ceidwadwyr oedd wedi galw'r ddadl er mwyn dadlau bod bodolaeth y DU fel gwladwriaeth yn beth da, oherwydd eu bod yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn "well efo'i gilydd".

'Sicrhau dyfodol i Gymru'

Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, oedd y cyntaf o'r arweinwyr i siarad, gan ddadlau bod Cymru'n cael bargen wael o fod yn rhan o'r undeb.

"Mae San Steffan yn meddwl y dylai Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban barhau i fod yn aelodau ufudd," meddai.

Ychwanegodd: "Blaenoriaeth Plaid Cymru yw sicrhau dyfodol cenedlaethol i Gymru fel partner hafal yn yr Undeb Ewropeaidd a gyda gwledydd eraill ynysoedd Prydain."

Dywedodd hefyd nad lle'r Ceidwadwyr Cymreig oedd dweud wrth bobl yr Alban beth i'w wneud, gan dynnu sylw at y ffaith fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig David Cameron wedi dweud mai mater i bobl yr Alban yw'r penderfyniad.

Er hynny, roedd Ms Wood eisiau gweld Mr Cameron yn cymryd rhan mewn dadl gyda Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond.

"Byddai'n dda petai gan y prif weinidog ddigon o asgwrn cefn i wynebu prif weinidog yr Alban mewn dadl ar y teledu," meddai.

'Mwy o ddatganoli'

Doedd Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, ddim yn cydweld gyda deheuad Ms Wood o weld y Deyrnas Unedig yn dod i ben.

"Rwy'n gobeithio y byddan nhw [Yr Alban] yn aros, ond eu hawl nhw ydi gwneud y penderfyniad yna," meddai.

"Rwy'n gobeithio'n arw na fydd pleidlais 'na' yn cael ei weld fel bod yr Alban yn derbyn y status quo. Mae polau piniwn yn dangos yn glir fod awydd cryf iawn ymysg Albanwyr am fwy o ddatganoli.

"Bydd rhaid i San Steffan weithredu ar hynny os bydd pleidlais na yn hwyrach y flwyddyn hon..."

Ychwanegodd Ms Williams: "Fe fyddwn ni ar y meinciau yma yn parhau i alw am fwy o bwerau i Senedd Cymru."

'Beth sydd orau i Gymru'

Image caption Mae San Steffan yn talu Cymru'n ôl am ei glo, yn ôl y prif weinidog

Dechreuodd y Prif Weinidog Carwyn Jones drwy gydnabod "ei bod hi'n anodd dweud rhywbeth mewn dadl fel hyn sydd heb gael ei ddweud o'r blaen".

Ond fe aeth ymlaen i ddweud: "Mae'r ddadl hon yn ymwneud â beth sydd orau i Gymru - yn ariannol ac yn emosiynol. Realiti'r sefyllfa yw bod Cymru'n well fel rhan o'r DU.

"Does dim amheuaeth ein bod ni'n cael budd o drosglwyddiadau ariannol, dim amheuaeth y byddan ni mewn sefyllfa ariannol waeth tu allan i'r DU.

"Dylen ni ddim bod â chywilydd o hyn, achos rhaid cofio bod llawer o arian wedi cael ei gymryd o Gymru pan roedd y diwydiant glo ar ei anterth yma - mae'n ffordd iddyn nhw ein talu ni'n ôl."

Aeth Mr Jones ymlaen wedyn i siarad am genedlaetholdeb: "Mae gwladgarwch yn dod mewn sawl ffurf, ac weithiau mae'n golygu mai'r dewis gorau i'ch gwlad yw'r dewis sydd â'r canlyniadau gwleidyddol gorau.

"Does dim rhaid i wladgarwch arwain at annibyniaeth."

Ond roedd ganddo rybudd i San Steffan: byddai'n "beryglus" iddyn nhw ddefnyddio pleidlais 'na' fel rheswm i beidio trosglwyddo mwy o bwerau.

"Gallai hynny arwain at refferendwm arall, a phryd hynny fy mhryder yw mai'r ateb fyddai 'ie'."

'Llwyddiant y DU'

Image caption Doedd Andrew RT ddim yn hapus efo dewis Leanne Wood o eiriau

Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies wnaeth gloi'r ddadl. Dechreuodd gan ddweud mai undeb wedi ei selio ar gydsyniad (consent) yw'r DU.

"Mae pob un rhan o'r DU yn dewis parhau o fewn yr undeb," meddai

"Os fyddai un rhan eisiau newid, er enghraifft os byddai Gogledd Iwerddon yn penderfynu ei bod hi eisiau torri'n rhydd ac uno efo Gweriniaeth Iwerddon, byddai pob llywodraeth yn San Steffan yn derbyn hynny."

Dywedodd ei fod yn cefnogi hawl yr SNP i gynnal refferendwm, er ei fod yn gobeithio gweld yr Alban yn aros yn y DU.

Fe ymosododd ar beth roedd Ms Wood wedi ei ddweud: "Fe ddefnyddiodd Leanne Wood y gair 'ufudd' ac roeddwn i'n gweld hynny'n weddol sarhaus.

"Mae gennym ni ddemocratiaeth ar yr ynys yma ac roedd yn ffordd anffodus o liwio'r ddadl.

"Mae pawb yn cytuno mai mater i Albanwyr yw hwn, ond allwch chi ddim atal pobl ledled y DU rhag siarad am eu hundeb nhw, eu Teyrnas Unedig nhw..."

Dywedodd mai'r DU yw un o'r undebau masnachol mwyaf llwyddiannus yn y byd a'i bod wedi "masnachu ei ffordd i lwyddiant".

Ond mae llywodraeth SNP yr Alban o'r farn y byddai gwlad annibynnol yn ffynnu- ar Fedi 18 bydd pobl y wlad yn penderfynu os mai eu dadl nhw, neu ddadl Better Together sy'n apelio fwyaf.

Straeon perthnasol