Apêl elusen i ferch 18 oed ar goll
- Cyhoeddwyd

Mae elusen a'r heddlu wedi apelio i ferch 18 oed sydd wedi diflannu ers bron tair wythnos.
Dyw Nida Naseer ddim wedi ei gweld ers iddi adael ei chartref yng Nghasnewydd wedi'r Nadolig.
Mae'r elusen Sefydliad Henna, sy'n ceisio cryfhau perthnasau o fewn teuluoedd, wedi gofyn iddi gysylltu yn uniongyrchol gyda nhw.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Mark Warrender: "Mae diflaniad Nida yn ddirgelwch ac un posibilrwydd ydy nad ydy Nida eisiau cael ei darganfod.
"Mae hi yn oedolyn ac os ydy hi eisiau aros i ffwrdd yna ei dewis hi yw hynny.
"Ond mae ei theulu eisiau gwybod ei bod hi yn saff. Dyna pam bod yr elusen, sydd yn arbenigo mewn darparu cyngor a chefnogaeth i deuluoedd Moslemaidd, yn ei hannog i gysylltu gyda nhw os ydy hi am wneud hynny."
Teledu cylch cyfyng
Mae'r heddlu yn parhau i edrych ar ffilm teledu cylch cyfyng ac unrhyw dystiolaeth newydd.
"Ein neges ni i Nida fyddai os nad ydy hi eisiau dod adref am ba bynnag rheswm i gysylltu gyda rhywun y mae hi yn fodlon ei wneud."
Mae Cyfarwyddwr Gweithredol yr elusen Shahien Taj wedi dweud y gallen nhw ei helpu os ydy hi yn cysylltu.
"Os nad yw hi eisiau ffonio'r heddlu ar 101 mi all hi yn hawdd iawn ffonio'r elusen ar 02920 496920 er mwyn rhoi gwybod i ni ei bod hi yn saff.
"Mi allwn ni siarad gyda hi am unrhyw bryderon efallai a'i helpu hi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014