Cofio pobl Wrecsam fu farw yn y Rhyfel Mawr

  • Cyhoeddwyd
Alister Williams
Disgrifiad o’r llun,
Mae Alister Williams am adrodd y straeon sydd y tu ôl i'r enwau ar y cof golofn yn Wrecsam

I gyd-fynd â chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf mae tîm o wirfoddolwyr wedi cychwyn creu rhestr o fanylion o bawb o dref Wrecsam gafodd eu lladd yn ystod y rhyfel.

Mae'r tîm i gyd yn aelodau o grŵp Cyfeillion Amgueddfa Wrecsam ac yn eu plith mae'r hanesydd lleol Alister Williams.

Dywedodd Mr Williams bod y grŵp wedi cael eu hysbrydoli gan yr awydd i ddarganfod mwy am y bobl y tu ôl i'r enwau ar y senotaff sydd yn eglwys San Silyn.

"Fel mae ar hyn o bryd mae enwau ar y cofebion rhyfel ond dyna'r cwbl sy 'na ac yn aml iawn 'mond J. Jones neu W. Williams, er esiampl.

"Y cwestiwn mae un yn gofyn yw 'Pwy oedd J. Jones?' neu 'Pwy oedd W. Williams?'

"'Dan ni'n ceisio ateb y cwestiwn yna... pwy oedden nhw? Beth oedden nhw'n neud, beth oedd eu gwaith nhw, mab pwy oedden nhw, tad pwy oedden nhw - i greu person yn hytrach na 'mond enw," meddai Mr Williams.

Ar y gofgolofn yn Wrecsam mae tua 300 o enwau ond mae'r grŵp wedi darganfod yn barod bod llawer o bobl bu farw ddim ar y gofgolofn.

"Posib iawn bod y rhieni wedi marw cyn i'r mab fynd i rhyfel a falle bod e'n unig fab a mae o wedi marw yn y rhyfel a bod neb wedi meddwl rhoi ei enw ymlaen i'r pwyllgor oedd wedi creu'r gofgolofn," esboniodd Mr Williams.

"Mae'n bosib iawn bydd gennym ni 600 o enwau, bron iawn tua dwbl y nifer sydd ar y gofgolofn, erbyn gorffen.

Ffynhonnell y llun, Alister Williams
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Frederick James Rotchell, o Wrecsam, yn forwr cyffredin yn ystod y rhyfel a bu farw ar 12 Ionawr 1918

"Doedd Wrecsam ddim yn dref fawr ar y pryd - dwi'n meddwl bod rhan go helaeth o'r boblogaeth wedi mynd i ffwrdd i'r rhyfel ac o'r rhai aeth i ffwrdd mae cryn dipyn heb ddod yn ôl."

Mae'r prosiect eisoes wedi canfod gwybodaeth am rai o'r bobl gollodd eu bywydau.

"Yr un mwyaf enwog oedd Syr Foster Cunliffe, perchennog stad Acton, oedd yn byw yn Acton Hall," dywedodd Mr Williams.

"Roedd o wedi creu enw i'w hun fel hanesydd a fo oedd awdur hanes swyddogol rhyfel y Boer ond yn y Rhyfel Byd Cyntaf ddaru fo ymuno yn y frigâd reiffl a cafodd ei ladd ar y Somme yn 1916.

"Ond mae'r mwyafrif yn bobl y werin, pobl gyffredin tref Wrecsam, pobl yn dwad o ardaloedd tlawd y dref.

"Rydyn ni'n mynd trwy bapurau newydd, y cyfrifiadau, a phapurau swyddogol fel y Commonwealth War Graves Commission a fesul dipyn rydyn ni'n dod i nabod pwy 'dy pwy."

Dywedodd Mr Williams mai'r bwriad yw creu llun mewn geiriau o bob un o'r rhai fu farw.

"Bydden ni wrth ein bodd petawn ni'n gallu dod o hyd i aelodau o'r teulu sy'n dal i fod o gwmpas heddiw a tybed os oes ganddyn nhw luniau ohonyn nhw er mwyn i ni allu rhoi llun efo'r geiriau," meddai.

Mae rhai lluniau wedi cael eu derbyn yn barod gan gynnwys un o Frederick James Rotchell.

Roedd yn un o chwech o blant i James Henry a Sarah Jane Rotchell a oedd yn byw yn Saxon Street yn ardal Hightown, Wrecsam.

Cafodd ei ladd mewn llongddrylliad yn Ionawr 1918. Roedd yn 19 mlwydd oed.

Dywedodd Mr Williams eu bod yn gobeithio gorffen y gwaith erbyn canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Y bwriad yw naill ai paratoi llyfr gyda manylion pawb bu farw ynddo i gael ei gadw yn rhywle cyhoeddus yn Wrecsam neu greu safle ar y we lle gall pobl fynd i chwilio am aelodau o'u teulu a gollwyd yn y rhyfel.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol