Kellogg's: Colli 140 swyddi yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Gall hyd at 140 o weithwyr golli eu swyddi yn ffatri Kellogg's yn Wrecsam.
Mae'r cwmni wedi dechrau proses ymgynghori 90 diwrnod oherwydd bod y cwmni yn "anelu at fod yn fwy effeithlon."
Gobaith y cwmni yw y bydd ymddeoliadau cynnar.
Dywedodd Chris Hood, Llywydd Kellogg's Ewrop: "Mae yna fwriad i sicrhau bod ein hasedau yn adlewyrchu gofynion cwsmeriaid.
"Oherwydd hynny rydym yn cymryd camau i sicrhau bod ein rhwydwaith gynhyrchu gyda'r rhif cywir o ffatrïoedd yn y llefydd cywir."
'Ergyd drom'
Dywedodd Peter Hughes o undeb Unite: "Mae'r newyddion bod Kellogg's yn meddwl rhoi 140 allan o waith yn ergyd drom i'r gweithlu.
"Mi fyddwn yn gwneud popeth y gallwn ar ran ein haelodau wrth i ni fynd i mewn i'r cyfnod 90 diwrnod i gadw pob swydd sy'n bosib.
"Mae colli unrhyw swyddi yn beth trist nid yn unig i'r rhai sydd yn cael eu heffeithio ond i'r gymuned yn ehangach ac economi Gogledd-Ddwyrain Cymru."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Bwrdeistref Wrecsam, Cynghorydd Neil Rogers: "Rydym yn siomedig clywed y newyddion, yn enwedig oherwydd ei fod yn dilyn colli swyddi yn Sharp a First Milk.
"Mae'n dangos pa mor fregus yw'r economi ac yn gwrthddweud beth mae Llywodraeth Ganolog wedi bod yn ei ddweud jest cyn 'Dolig."
Ychwanegodd y buasai'r cyngor yn gweithio gyda'r cwmni i roi cefnogaeth i'r gweithwyr.