Leinster 36 - 3 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweilch wedi ffarwelio a'r Heineken, o bosib am y tro olaf, gyda chrasfa gan Leinster.
Roedd yr ugain munud cyntaf yn eithaf cyfartal am yr ugain munud cyntaf, wrth i amddiffyn cryf y ddau dîm gadw'r sgôr yn isel.
Dim ond 3-3 oedd hi pan welodd clo'r Gweilch Ian Evans gerdyn goch am stampio ar ben Mike McCarthy yn y sgarmes.
Fe edrychodd y dyfarnwr Romain Poite ar y digwyddiad nifer o weithiau ar y sgrin fawr cyn gwneud ei benderfyniad.
Gallai'r penderfyniad olygu bod Evans yn colli'r Chwe Gwlad.
Fe wnaeth y Gweilch ei gorau glas i amddiffyn drwy weddill y gêm ond doedd dim posib iddyn nhw ddal y llif yn ôl, ac fe ddaeth cais gyntaf Leinster gyda 33 munud ar y cloc.
Fe benderfynodd Poite roi cais gosb wedi i sgarmes y tîm cartref chwalu'n agos at y llinell gais.
Daeth yr ail gais rhyw bum munud wedyn wrth i Healy groesi'r llinell yn dilyn rhediad chwim.
Cafodd Leinster ail gais gosb y gêm wedi 62 gan fod Rhys Webb wedi mynd mewn o'r ochr o'r sgrym gan atal cais oedd ar blât i Jamie Heaslip.
Bydd rhaid aros i weld am faint bydd Evan yn cael ei wahardd.