Man City 4-2 Caerdydd
- Published
Mae Caerdydd wedi colli i Man City er gwaetha' perfformiad addawol yn yr ail hanner.
Roedd Caerdydd yn barod i frwydro ond roedd Man City'n bygwth o bob safle.
Aeth y tîm cartre' ar y blaen ar ôl 13 munud wrth i Edin Dzeko rwydo i'r gornel dde.
Chwarter awr wedyn tarodd Craig Noone yn ôl i'r Cymry.
Ni oedodd Man City oherwydd o fewn ychydig o funudau sgoriodd Jesús Navas o ganol y cwrt cosbi.
2-1 oedd hi ar yr egwyl.
Yn yr ail hanner cafodd Caerdydd ddigon o feddiant ac roedd Craig Noone yn ddraenen yn ystlys y tîm cartre'.
Ond trodd y llanw a seliodd Yaya Touré a Sergio Aguero y fuddugoliaeth wrth ergydio o fewn tair munud i'w gilydd.
Gôl gysur i Fraizer Campbell (Caerdydd) yn yr amser ychwanegol.
Siom i Gaerdydd ond y sgôr efallai ddim yn adlewyrchiad cywir o'r gêm.
Er bod Caerdydd ar waelod y tabl mae'n bosib' bod eu perfformiad yn cynnig ychydig o obaith i'r rheolwr newydd Ole Gunnar Solskjaer.