Rheilffordd y Cambrian 'ar gau am fisoedd'
- Published
Mae Network Rail wedi dweud y gallai rhan o Reilffordd y Cambrian fod ar gau am bedwar mis.
Ar hyn o bryd mae ar gau rhwng Cyffordd Dyfi a Phwllheli oherwydd effeithiau'r llifogydd yn Nhywyn, Y Bermo a Chricieth.
Roedd peirianwyr oedd wedi bod mewn hofrennydd wedi dweud bod y difrod ar y lein i'r gogledd o'r Bermo'n "sylweddol".
Efallai y bydd modd ailagor y lein i'r de o'r Bermo erbyn Chwefror 10.
Yn Llanaber roedd grym y llanw mor fawr nes i wal y môr gael ei sgubo i ffwrdd.
Yr wythnos ddiwetha' roedd dau drên yn sownd oherwydd y llifogydd a bu raid i sawl lori eu cludo i Gaer.
"Mae'r cwmni'n deall yn llwyr ba mor bwysig yw'r lein yn gymdeithasol ac yn economaidd yn yr ardal," meddai Mark Langman, rheolwr gyfarwyddwr Network Rail Cymru.
"Rhaid dweud bod y cyfnod hwn wedi bod yn heriol iawn ond ein blaenoriaeth yw ailagor y lein yn ddiogel cyn gynted â phosib."
Roedd ymdrechion cychwynnol i asesu'r difrod, meddai, yn anodd oherwydd y tywydd drwg a'r gwyntoedd cryf.
Straeon perthnasol
- Published
- 18 Ionawr 2014
- Published
- 14 Ionawr 2014
- Published
- 9 Ionawr 2014