Abergele: Dyn yn euog o lofruddio Sam Blackledge

  • Cyhoeddwyd
Pen y Bont
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Mr Blackledge y tu allan i dafarn Pen y Bont yn Abergele

Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio cwsmer y tu allan i dafarn yn Abergele.

Penderfynodd y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon bod Anthony Smith, 40 o Lon y Gors ym Mhensarn, wedi llofruddio Sam Blackledge y tu allan i dafarn Pen y Bont.

Bu farw Mr Blackledge wedi iddo gael ei daro y tu allan i'r dafarn ym mis Gorffennaf y llynedd.

Cafodd partner Smith, Tracey Jones, ei dyfarnu yn euog o ddynladdiad. Roedd hi'n reolwr yn y dafarn ond doedd hi ddim yn gweithio ar y diwrnod pan gafodd Mr Blackledge ei ladd.

Cafwyd y ddau yn euog o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy ofyn i dystion guddio'r ffaith fod Mr Blackledge wedi ei anafu oherwydd yr ymosodiad.

Ffrae

Clywodd y llys bod Smith wedi gweld Mr Blackledge yn ffraeo gyda Jones y tu allan i'r dafarn.

Dywedodd ei fod yn meddwl bod Blackledge am ei tharo, a'i fod wedi ceisio ei wthio i ffwrdd.

Dywedodd nad oedd wedi bwriadu ei daro mor galed, ond clywodd y llys fod Mr Blackledge wedi dioddef o anafiadau difrifol i'w ymennydd.

Yn ôl yr erlynydd, Andrew Thomas QC, roedd y ddau wedi defnyddio lefel o drais oedd yn afresymol.

Clywodd y rheithgor bod ei foch wedi ei thorri mewn dau le a bod grym yr ergyd wedi torri pibellau yn ei ymennydd gan achosi gwaedu anferth.

Roedd Smith wedi pledio yn euog i ddynladdiad, ond penderfynodd y rheithgor ei fod yn euog o lofruddio.

Cafwyd Jones yn ddieuog o lofruddio.

Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ar Chwefror 10.