Marwolaeth Abergele: Rheithgor yn ystyried dyfarniad
- Cyhoeddwyd

Bu farw Paul Blackledge ddau ddiwrnod ar ôl yr ymosodiad honedig
Mae'r rheithgor yn achos dau o bobl sydd wedi'u cyhuddo o ladd dyn gweddw wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn Llys y Goron Caernarfon.
Mae Tracey Jones, 47, a'i phartner Anthony Smith, 40, ill dau o Abergele, yn gwadu lladd y tad i ddau, Sam Blackledge, 54.
Mae'r erlyniad yn honni i Mr Blackledge gael ei bwnio'r tu allan i dafarn Pen y Bont fis Gorffennaf diwetha'.
Tracey Jones yw rheolwraig y dafarn.
Mae Smith eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad.
Ond mae'r ddau yn gwadu ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder trwy ofyn i dyst gelu'r ffaith fod Mr Blackledge wedi cael anafiadau i'w ben yn ystod yr ymosodiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014