Rennard: Pawb 'yn nhir neb'
- Cyhoeddwyd

Mae dynes wnaeth gyhuddo'r Democrat Rhyddfrydol, yr Arglwydd Rennard, o aflonyddwch rhywiol wedi dweud fod pawb yn ymwneud â'r achos "yn nhir neb".
Er i'r honiadau gael eu gwrthod, mae Nick Clegg wedi gofyn i'r Arglwydd Rennard ymddiheuro.
Alison Goldsworthy, sy'n ymgyrchydd dros y blaid, a thair dynes arall a wnaeth yr honiadau'r flwyddyn ddiwethaf ac fe wnaeth yr Arglwydd Rennard ymddiswyddo fel chwip y blaid o ganlyniad.
Roedd i fod i ddychwelyd i San Steffan ddydd Llun ond mae arweinydd y blaid, Mr Clegg, wedi gofyn iddo ymddiheuro cyn hynny - neu wynebu cael ei wahardd.
Dywedodd Ms Goldsworthy - dirprwy gadeirydd pwyllgor gwaith ffederal y blaid - wrth BBC Radio Wales ei bod hi a'r merched eraill wnaeth yr honiadau wedi apelio yn erbyn canfyddiadau'r ymchwiliad i ymddygiad Mr Rennard, sef nad oedd ganddo achos i'w ateb.
"Un o'r rhesymau wnaethon ni benderfynu dweud unrhyw beth y flwyddyn ddiwethaf oedd am ein bod ni wedi cael digon ar agwedd erchyll gwleidyddiaeth tuag at fenywod, a'r diwylliant yn gyffredinol yng Nghymru a San Steffan," meddai.
"Dydw i ddim yn cytuno gyda phenderfyniad y blaid, na fyddai'r ymchwiliad yn parhau oherwydd bod posibilrwydd na fyddai'n cael ei brofi tu hwnt i unrhyw amheuaeth."
'Afresymol ac annheg'
Ychwanegodd Ms Goldsworthy: "Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd cyflogaeth mae safon y prawf yn ymwneud â chydbwyso'r tebygolrwydd: ydyn ni'n meddwl fod hyn wedi digwydd ac ydyn ni'n meddwl ein bod ni'n eu credu nhw?"
"Yr hyn rwy'n ei gredu yw bod y tir neb yma rydym yn darganfod ein hunain ynddo ar hyn o bryd yn afresymol ac yn annheg ar bawb sy'n rhan o'r broses - yr Arglwydd Rennard a ninnau.
"Mae angen penderfyniad cadarn. Mae gan bleidiau gwleidyddol brosesau Bysantaidd ac mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn enwedig yn ddrwg yn hyn o beth."
Mae ymgynghorydd cyfreithiol yr Arglwydd Rennard, yr Arglwydd Alex Carlile, wedi beio "gweinyddiaeth ddi-glem" y blaid wrth ddelio â'r broses ddisgyblu, gan ddweud eu bod nhw wedi "ceisio osgoi" dilyn "rheolau ysgrifenedig".
Dywedodd: "Realiti'r sefyllfa yma yw bod Alison Goldsworthy a thair menyw arall wedi gwneud cwynion.
"Felly fe gafodd datganiadau, 50 ohonyn nhw o blaid yr Arglwydd Rennard, eu cyflwyno i Alistair Webster, ymchwilydd y broses.
"Yn dilyn ymchwiliad a barodd saith mis fe wnaeth Mr Webster ddarganfod nad oedd achos i'w ateb, ar safon tystiolaeth droseddol na sifil.
"Dylai'r blaid fod wedi disgwyl am y dyfarniad a'i dderbyn.
"Yn gyson mae Nick Clegg a [llywydd y blaid] Tim Farron wedi gwneud datganiadau sy'n ymddangos fel eu bod nhw'n derbyn fod datganiadau'r merched yn wir.
"Be allwn ni ddim ei gael yw proses gyfreithiol lle mae barnwr yn dweud 'rwy'n dy gael di'n ddieuog ond paid â'i wneud o eto'."
Gwahardd dros dro
Yn y cyfamser, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud fod Mr Clegg wedi ei gwneud yn glir y byddai'n amhriodol i'r Arglwydd Rennard fel chwip y blaid os nad oedd yn ymddiheuro ond ei fod yn "gwrthod gwneud".
Dywedodd datganiad ar ran y blaid eu bod wedi penderfynu atal aelodaeth yr Arglwydd Rennard o'r blaid tra bod y broses ddisgyblu'n mynd rhagddi, ac na allai ddychwelyd i Dŷ'r Arglwyddi am y tro.
"Bydd ymchwiliad nawr yn cael ei gynnal i benderfynu a oedd yr Arglwydd Rennard wedi dwyn anfri ar y blaid trwy fethu ag ymddiheuro fel yr oedd Alistair Webster QC wedi argymell," meddai'r datganiad.