Ceredigion yn trafod cynyddu trethi

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cyngor Ceredigion yn wynebu toriadau o £9.4 miliwn yn 2014/15

Mi fydd pwyllgor arbennig o Gyngor Ceredigion yn cwrdd heddiw i drafod faint i gynyddu'r dreth gyngor.

Y gred ydi eu bod am ei gynyddu 5% ar gyfer 2014/15.

Mae holl gynghorau Cymru yn y broses o drafod lle fedran nhw arbed arian wedi i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi toriadau o Ebrill ymlaen.

Fe fydd Ceredigion yn derbyn 5.1% yn llai oddi wrth Llywodraeth Cymru yn 2014/15 ac mae lleihad posib o 3% yn 2015/16.

Mae gan Gyngor Ceredigion gyfanswm cyllideb o £134.5 miliwn ar gyfer 2014/15, ond mae angen gwneud toriadau o ryw £9.4 miliwn.

Cwtogi gwasanaethau

Ymhlith y gwasanaethau fydd yn cael eu heffeithio fydd gwasanaethau llyfrgelloedd, pyllau nofio a chanolfannau hamdden, gwasanaethau trin gwastraff, trin ffyrdd a goleuadau stryd,

Bydd y Cyngor yn edrych ar faint dosbarthiadau yn ysgolion y sir ac yn ystyried niferoedd y plant a'r athrawon. Fe fyddan nhw hefyd am gynyddu prisiau'r gwasanaeth pryd ar glyd.

Bydd arbedion yn dod hefyd yn fewnol yn y Cyngor gyda chynigion i staff gymryd ymddeoliadau cynnar, lleihad mewn swyddi, codiadau cyflog a cherbydau'r cyngor.

Mae'r Cyngor yn rhybuddio mai dyma fydd y flwyddyn waethaf, yn nhermau cyllideb, ers i'r Cyngor ddechrau.

Treth Cyngor yn 5%

Yr wythnos diwethaf, fe gynigodd cabinet cyngor Sir Benfro i godi'r dreth gyngor 3.5%, - tua £26.00 y flwyddyn i daliadau tai band D - y lefel isaf yng Nghymru.

Mae'n debyg bod Sir Gaerfyrddin yn ystyried cynnydd o £44.00 (4.5%) ond mae Ceredigion am fynd yn uwch eto.

Fe fyddai 5% o gynnydd yn golygu bod tâl tŷ band D yn £1,019.21 (£48.00 o gynnydd).

Mae'r Cyngor yn dweud bod y rhain yn amseroedd anodd o safbwynt cyllideb a chyflawni gwasanaethau, ond bod y sialens yn cynnig cyfle iddyn nhw hefyd ystyried sut y gall gwasanaethau gael eu cyflawni'n wahanol ac yn well, gan roi gwell gwerth am arian i'r trethdalwr.