Dechrau da i Thomas yn Awstralia
- Cyhoeddwyd

Roedd Geraint Thomas yn 11eg wedi'r cymal cyntaf
Cafodd y seiclwr Geraint Thomas ddechrau da ar ddiwrnod cyntaf ras y Tour of Australia.
Thomas oedd prif gystadleuydd Team Sky ar ddiwedd y cymal cyntaf 135km o Nuriootpa i Angaston ddydd Mawrth.
Gorffennodd Thomas yn 11eg wedi i Simon Gerrans o Awstralia groesi'r llinell yn gyntaf mewn amser o 3 awr 20'23". Roedd Thomas 11" y tu ôl i Gerrans.
Yr Almaenwr Andre Griepel oedd yn ail gyda Steele Von Hoff - hefyd o Awstralia - yn drydydd.
Bu bron i ddechrau'r ras gael ei ohirio yn dilyn tân mawr mewn coedwig ger y cymal cyntaf.
Bydd yr ail gymal ddydd Mercher yn teithio o Prospect i Stirling - taith o 150km.