Evans i glywed ei dynged ddydd Iau
- Published
Bydd clo Cymru a'r Llewod Ian Evans yn cael clywed ddydd Iau os fydd yn cael chwarae rhan ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Dyna pryd y bydd Evans yn mynd o flaen panel disgyblu'r ERC (European Rugby Cup) wedi iddo weld cerdyn coch am sathru yn y gêm rhwng y Gweilch a Leinster nos Wener ddiwethaf.
Penderfynodd y dyfarnwr Romain Poite ei yrru o'r maes ar ôl gweld lluniau teledu o'r digwyddiad a adawodd Mike McCarthy gyda gwaed dros ei wyneb.
Jeremy Summers o Loegr sydd wedi cael ei benodi'n swyddog ar gyfer y gwrandawiad yn Nulyn.
Mae'r cyfan yn dibynnu ar ddehongliad y panel disgyblu o'r digwyddiad.
Cosb amrywiol
Mae'r gosb am sathru yn gallu amrywio o bythefnos am achosion llai difrifol i 52 wythnos am yr achosion mwyaf difrifol.
Yn syth wedi'r gêm nos Wener, dywedodd hyfforddwr olwyr y Gweilch Gruff Rees: "Efallai ei fod ychydig yn ddiofal, ond roedd angen gwylio'r digwyddiad sawl gwaith cyn gwneud y penderfyniad (i ddangos y cerdyn coch) sy'n awgrymu nad oedd yn achos amlwg na chlir.
"Wrth arafu'r peth mae'n bosib gweld rhywbeth gwaeth yn digwydd, ond gyda chymaint o bobl yn cynnig barn wahanol am y peth mae'n awgrymu nad oedd y lluniau yn dangos yn gwbl bendant."
Mae Evans wedi ennill 32 cap i Gymru yn yr ail reng. Gyda chyhoeddiad ddydd Llun na fydd Ryan Jones ar gael ar gyfer y bencampwriaeth mae un o ddewisiadau posib Warren Gatland yn y safle hwnnw eisoes wedi diflannu.
Alun Wyn Jones, Luke Charteris ac Andrew Coombs yw'r tri arall sy'n medru chwarae yn y safle, ond os fydd Evans yn cael ei wahardd am y bencampwriaeth i gyd neu ran ohoni, fe fydd angen i Gatland ystyried dewisiadau eraill.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Ionawr 2014
- Published
- 17 Ionawr 2014
- Published
- 14 Ionawr 2014