Llys yn rhoi perfformiwr llwyfan dan orchymyn iechyd meddwl
- Published
Cafodd dyn o Gaerllion ei roi dan orchymyn iechyd meddwl ar ôl i lys glywed iddo "golli rheolaeth" wrth berfformio mewn sioe ddadwisgo yn sir Gaerfyrddin.
Fe roedd Leon Zbudoswkyj, 30 oed, wedi ymosod ar aelodau'r o'r gynulleidfa yn y Baltic Inn ym Mhont-iets.
Clywodd y llys fod y gynulleidfa wedi talu £10 i weld perfformiwr proffesiynol o'r enw Fabio.
Doedd o ddim ar gael ac fe wnaeth Mr Zbudoswkyj gymryd ei le.
Yn ôl yr erlyniad roedd o wedi colli rheolaeth ar ôl i'r gynulleidfa o 200 ddechrau gwawdio ei berfformiad.
Bu'n rhaid ffonio'r heddlu.
Roedd Zbudoswkyj wedi pledio'n euog i dri chyhuddiad o ymosod mewn gwrandawiad blaenorol.
Dywedodd y barnwr Keith Thomas fod Zbudoswkyj â record o ymddwyn yn afreolus unwaith iddo golli ei dymer.
"Mater o lwc yw hi nad yw wedi achosi anaf difrifol i'r cyhoedd oherwydd y cyfnodau afreolus."
Bydd yn cael ei gadw dan orchymyn y Ddeddf Iechyd Meddwl am amser amhenodol.
Clywodd y llys fod ganddo eisoes 11 o ddedfrydau am ymddwyn yn dreisgar.
Yn ôl y seiciatrydd Dr Stephen Attwood roedd Zbudowskyj yn dioddef o gyflwr salwch meddwl, cyflwr "oedd yn gallu cael ei drin."