Cynnydd o 5% i dreth cyngor Ceredigion
- Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Ceredigion wedi pleidleisio o blaid codi'r dreth cyngor 5% o fis Ebrill ymlaen.
Dyna'r cynnydd ucha' y mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu fyddai'n dderbyniol.
Yn wreiddiol roedd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, wedi dweud na fyddai'n cyflwyno uchafswm ar gyfer cynyddu trethi cyngor.
Byddai cynnydd o 5% yng Ngheredigion yn golygu fod y dreth ar gyfer eiddo ym mand D yn costio £1,019.21 y flwyddyn (£48.00 o gynnydd).
Mae holl gynghorau Cymru yn y broses o drafod lle fedran nhw arbed arian wedi i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi toriadau o Ebrill ymlaen.
Arbed arian
Fe fydd Ceredigion yn derbyn 5.1% yn llai oddi wrth Llywodraeth Cymru yn 2014/15 ac mae lleihad posib o 3% yn 2015/16.
Mae gan Gyngor Ceredigion gyfanswm cyllideb o £134.5 miliwn ar gyfer 2014/15, ond mae angen gwneud toriadau o ryw £9.4 miliwn.
Maen nhw'n ystyried gwneud toriadau i wasanaethau llyfrgelloedd, pyllau nofio a chanolfannau hamdden, gwasanaethau trin gwastraff, trin ffyrdd a goleuadau stryd.
Bydd y cyngor yn edrych ar faint dosbarthiadau yn ysgolion y sir ac yn ystyried niferoedd y plant a'r athrawon. Maen nhw hefyd yn ystyried codi prisiau'r gwasanaeth pryd ar glyd.
Bydd arbedion yn dod hefyd yn fewnol yn y cyngor gyda chynigion i staff gymryd ymddeoliadau cynnar, yn ogystal â chyfyngu ar nifer y swyddi, codiadau cyflog a cherbydau'r cyngor.
Mae'r cyngor yn rhybuddio mai dyma fydd y flwyddyn waethaf, yn nhermau cyllideb, ers i'r awdurdod ddod i fodolaeth.
Yr wythnos diwethaf, fe gynigodd cabinet cyngor Sir Ddinbych i godi'r dreth gyngor 3.5% - tua £26.00 y flwyddyn ar gyfer eiddo ym mand D - y lefel isaf yng Nghymru.
Bydd penderfyniad cabinet Ceredigion yn gorfod cael sêl bendith y cyngor llawn cyn ei fod yn cael ei gyflwyno.
Straeon perthnasol
- 16 Ionawr 2014
- 15 Ionawr 2014
- 16 Hydref 2013