Llwynhelyg: 'Y frwydr yn parhau'

  • Cyhoeddwyd
Llwynhelyg
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ymgyrchwyr yn honni bod y cynlluniau'n gyfystyr ag "israddio" yr ysbyty

Mae grŵp ymgyrchu wedi dweud na fyddan nhw'n rhoi'r gorau i frwydro'n erbyn cynlluniau i gau uned i fabanod newydd-anedig yn Ysbyty Llwynhelyg.

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford y byddai'r uned yn cau, wrth i wasanaethau gael eu canoli yng Nghaerfyrddin.

Mae hyn yn rhan o gynlluniau ad-drefnu ehangach Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Dyw'r ymgyrchwyr ddim yn fodlon derbyn y penderfyniad, ac maen nhw'n cynllunio protest ar gyfer y penwythnos.

'Rhwyd diogelwch'

Bwriad y bwrdd iechyd yw darparu gwasanaeth wedi ei arwain gan fydwragedd yn ysbytai Llwynhelyg a Bronglais, yn lle'r gwasanaeth presennol sy'n cael ei arwain gan ddoctoriaid.

Wrth gyhoeddi ei fod yn cytuno gyda'r penderfyniad, dywedodd Mr Drakeford y byddai "rhwyd ddiogelwch" yn cael ei rhoi mewn lle, er mwyn sicrhau bod cymorth arbenigol ar gael i fydwragedd petai'r angen yn codi.

Yn ogystal, dywedodd y byddai cynlluniau ar gyfer trosglwyddo cleifion ar frys mewn argyfwng yn cael eu datblygu.

Yn ôl cadeirydd Tîm Achub Ysbyty Llwynhelyg (Swat), Chris Overton, byddai cau'r uned gofal babanod arbenigol yn siŵr o gael effaith ar unedau eraill gan gynnwys yr adran frys.

Dywedodd Chris Overton nad yw'n ymarferol i ferched beichiog sy'n wynebu genedigaeth gymhleth i deithio.

Cyfeiriodd at achos Kate Sutton o Johnstown ger Hwlffordd, a gollodd ei babi a fu bron a marw ei hun.

'Munudau i ffwrdd'

Yn ôl Mr Overton "ni fyddai hi wedi goroesi petai hi wedi gorfod teithio'n bellach".

Dywedodd Ms Sutton wrth BBC Cymru: "Roeddwn i funudau i ffwrdd o farwolaeth. Pe na bai'r gwasanaeth yna ar gael i mi fel yr oedd o ar y noson, fyddwn i ddim yn eistedd yma heddiw."

Cyfeiriodd Mr Overton hefyd at achos arall gafodd efeilliaid 10 munud ar ôl cerdded i mewn i'r uned newydd-enedigol yn Llwynhelyg.

"Fyddai hi heb allu teithio ymhellach, byddai hi wedi marw ar y ffordd," meddai Mr Overton.

"Mae Glangwili rhyw 40 munud i ffordd, awr yn yr haf. Yn ogystal mae problemau gyda damweiniau yn rhwystro'r A477 yn aml a'r A40 hefyd pan nad oes posib symud."

Mae Swat yn ceisio herio'r broses o gyfeirio'r penderfyniad terfynol i'r gweinidog iechyd yn y llysoedd.

Ym mis Rhagfyr fe gafodd y grŵp wybod eu bod yn gymwys am gymorth cyfreithiol, ac mae disgwyl penderfyniad ynghylch y mater fis nesaf.

Mae'r grŵp yn bwriadu cynnal protest dros y Sul.

Dywedodd Mr Overton: "Mae gennym ni bwyllgor o 12 o bobl ac yn ystod y brotest ddiwethaf fe ddaeth rhwng 700 a 800 o bobl i gefnogi.

"Rydym yn gobeithio bydd y nifer yma'n dyblu nawr wrth i bobl glywed am y penderfyniad."