Gwesty Llandudno yw un o oreuon y byd
- Cyhoeddwyd

Mae gwesty yng ngogledd Cymru wedi ei enwi fel un o oreuon y byd.
Cafodd y Lauriston Court yn Llandudno ei enwi fel y gwesty rhad orau yn y DU, a'r trydydd orau yn y byd yng ngwobrau gwefan Trip Advisor.
Mae'r gwobrau yn cydnabod y gwestai gorau mewn categorïau fel gwestai rhad, moethus neu ramantus.
Ac nid dyna'r unig gynrychiolaeth o Gymru, wrth i Westy'r Wellington, hefyd yn Llandudno, ddod yn bedwerydd ar restr y gwestai rhad yn Ewrop.
Cafodd y Lauriston ei wobrwyo am y gwasanaeth orau yn 2013.
Mae 11 o 'stafelloedd yn y gwesty, sy'n cael ei redeg gan Carol-Lynn ac Ian Robbins, ac mae prisiau yn dechrau ar £35 y noson.
Dros Gymru, roedd cydnabyddiaeth hefyd i westy Bod Gwynedd ym Metws y Coed, oedd yn 15fed ar restr y gwestai gwely a brecwast gorau yn y byd.
Yn yr 17eg safle roedd Plas Dinas ym Montnewydd.
Mae gwobrau Trip Advisor yn defnyddio adolygiadau teithwyr i enwi'r goreuon ym mhob categori.