Tryfan yn curo'r Wyddfa
- Cyhoeddwyd

Mae mynydd Tryfan wedi cael ei enwi'n hoff fynydd cerddwyr y Deyrnas Unedig.
Mae Tryfan wedi curo'i gymydog enwog, yr Wyddfa, yn yr arolwg gan gylchgrawn 'Trail'.
Yn ail, roedd mynydd Helvellyn yn ardal y llynnoedd, gyda'r Wyddfa, copa uchaf Cymru, yn cipio'r trydydd safle.
Fe ddaeth mynydd ucha'r Deyrnas Unedig, Ben Nevis yn yr Alban, yn wythfed, gyda Scafell Pike, yr uchaf yn Lloegr, yn y trydydd safle ar ddeg.
Roedd dros 1200 o bobl wedi pleidleisio ar wefan y cylchgrawn.
"Enillydd haeddiannol"
Yn ôl y golygydd, Simon Ingram, mae Tryfan yn "enillydd haeddiannol".
"Mae Tryfan yn drawiadol ac unigryw ac wedi bod yn fynydd sy'n agos at galon y mynyddwyr hynny sy'n hoffi sialens."
Mae'n dweud mai'r Wyddfa yn sicr yw seren yr ardal ond bod Tryfan yn ail agos, gan ei fod yn cynnig y cymysgedd cywir o ran gwefr a'r gallu i gyrraedd y copa.
"Mae'n gret i edrych arno ac yn gopa go iawn i ddringwyr mynydd."
Mae copa Tryfan 918 metr uwchben lefel y môr - 167 metr yn llai na'r Wyddfa.
Ar y brig mae dwy garreg bigog ac mae'r dringwyr hynny sy'n mwynhau gwefr yn hoffi neidio rhwng y ddau.
Yn ôl Alan Hinkes, y Prydeiniwr cyntaf i ddringo pob un o 14 o fynyddoedd 8,000 metr y byd, gan gynnwys Everest a K2, mae Tryfan yn drawiadol.
"Dwi'n cofio'r tro cyntaf i mi ei weld pan es i i Gymru a chofio meddwl 'edrych ar hwnna!'," meddai.
"Mae'n creu argraff o bob ongl, mor noeth a llwm, mae mor drawiadol ag unrhyw gastell."