System i ddarganfod estroniaid y môr
- Cyhoeddwyd

Mae system rybuddio newydd yn cael ei ddatblygu i ddarganfod creaduriaid estron ym moroedd Cymru.
Fe allai'r system rybuddio newydd leihau'r difrod a wneir gan greaduriaid sydd ddim yn frodorol i foroedd Cymru i ddiwydiannau'r môr ac i fywyd gwyllt brodorol.
Bydd modd hefyd eu canfod yn gynnar fel bod ymdrechion i ddifa unrhyw rhywogaethau sy'n ymledu yn haws gan na fyddai cymaint ohonyn nhw ac na fydden nhw mor wasgaredig.
Mae datblygu'r system yn rhan o brosiect 18 mis dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.
Mae rhywogaethau sydd ddim yn frodorol i Gymru fel arfer yn cyrraedd yma drwy ddamwain, drwy longau, hwylio hamdden a ffermio planhigion morol.
Dydy'r rhan fwyaf o rywogaethau sy'n cael eu cyflwyno i ddyfroedd Cymru ddim yn fygythiol nac yn niweidiol.
Fodd bynnag, mae 'na rai, megis ewinedd mochyn, cranc mynegog Tsieineaidd a'r chwistrell fôr garped yn fwy o fygythiad, gan eu bod yn dwyn bwyd y rhai brodorol ac yn difrodi'r cynefinoedd lle mae nhw'n byw.
Yn ei dro, gall hyn leihau poblogaeth rhywogaethau megis cregyn gleision, wystrys a chrancod gan effeithio'r diwydiant pysgota lleol.
Bydd ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor ac arbenigwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r diwydiannau morol, yn gyntaf yng ngogledd Cymru, ac yn gosod paneli arbennig o dan y dŵr i gasglu gwybodaeth.
Mae ffermwyr wystrys, rheolwyr marinas a physgotwyr cimychiaid a chrancod am ganiatáu i'r arbenigwyr osod y rhain yn y môr yn yr ardaloedd lle maen nhw'n gweithio.
Dywedodd Gabrielle Wyn o Cyfoeth Naturiol Cymru: "Y cynharaf y byddwn yn adnabod unrhyw rywogaeth sy'n ymledu - y gorau yw ein siawns o daclo neu ddifa'r rhywogaeth yn gyfan gwbl yn llwyddiannus."
"Bydd yn lleihau'r difrod amgylcheddol ac economaidd a achosir gan y rhywogaethau hyn."
Meddai Dr Katherine Griffith, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor, bod y "rhywogaethau anfrodorol ymwthiol yn gryn fygythiad i fioamrywiaeth morol a thrwy hynny i weithrediad ecosystemau arfordirol a morol."
"Ein gobaith yw trwy godi ymwybyddiaeth ac annog canfod rhywogaethau anfrodorol ymwthiol morol yn gynnar y gallwn gynyddu gallu'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon i ymateb yn gyflym ac yn llwyddiannus i achosion newydd o'r fath."
Mae disgwyl i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2015.
Straeon perthnasol
- 23 Awst 2013
- 24 Gorffennaf 2013