Deddf newydd ar gyfer sigarennau?
- Published
Mae ACau wedi pleidleisio o blaid rhoi caniatâd i unrhyw ddeddfwriaeth newydd gan Lywodraeth San Steffan ynglŷn â phecynnau sigarennau, fod yn berthnasol i Gymru.
Mae llywodraeth San Steffan yn bwriadu cynnal arolwg o'r ddeddf bresennol gyda'r bwriad o wahardd unrhyw fath o frandio ar becynnau sigarennau.
Cred llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw'r hawl i ddeddfu ar y mater ond maent yn ffafrio cael un ddeddfwriaeth ar lefel y Deyrnas Unedig.
Ym mis Gorffennaf 2013 roedd hi'n ymddangos nad oedd llywodraeth San Steffan o blaid deddfwriaeth o'r fath.
Ond ym mis Tachwedd cyhoeddodd y llywodraeth y byddai polisi newydd yn cael ei gyflwyno yn dilyn arolwg, a hynny "pe baent yn fodlon bod digon o dystiolaeth a'i fod o fudd i iechyd cyhoeddus."
Bydd yr arolwg ei arwain gan y pediatrydd Syr Cyril Chartlern.
Mae'n debyg y bydd yn ffocysu ar gynllun peilot yn Awstralia.
Awstralia oedd y wlad gyntaf i ddeddfu o blaid cael gwared ar becynnau gyda brandio, a hynny yn 2011.
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Rhagfyr 2013
- Published
- 1 Chwefror 2012
- Published
- 17 Ionawr 2013