BBC Cymru Fyw

Thomas yn codi un safle yn Awstralia

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionRoedd Geraint Thomas yn 11eg wedi'r cymal cyntaf

Mae Geraint Thomas wedi codi un safle yn dilyn yr ail gymal yn ras feicio'r Tour Down Under yn Awstralia.

Yr Eidalwr Diego Ulissi enillodd yr ail gymal 150km o Prospect i Stirling ddydd Mercher mewn amser o 3 awr 52'14", ond gyda phentwr o feicwyr yn croesi'r llinell gyda'i gilydd - gan gynnwys Thomas - fe gafodd y Cymro yr un amser swyddogol.

Wedi'r ddau gymal mae Simon Gerrans yn dal i fod ar y brig wedi iddo orffen yn gyntaf ac ail, gydag Ulissi saith eiliad y tu ôl iddo.

Mae Thomas wedi codi un safle i ddegfed - 17 eiliad y tu ôl i Gerrans.

Bydd y trydydd cymal ddydd Iau yn teithio'r 145km o Norwood i Campbelltown.

Straeon perthnasol

  • Dechrau da i Thomas yn Awstralia