Dynes mewn afon wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 61 oed wedi marw wedi iddi gael ei darganfod mewn afon yng Ngorseinon.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal ger canol y dre yn fuan wedi 3pm ddydd Mercher, yn dilyn adroddiadau fod corff yn yr afon.
Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Treforys lle bu farw'n ddiweddarach.
Mae'r heddlu'n trin y farwolaeth fel un heb gael ei hesbonio ar hyn o bryd ac mae ymchwiliad i'r mater yn parhau.