Stadiwm Liberty am ehangu
- Cyhoeddwyd

Mi fydd cais cynllunio i ehangu Stadiwm Liberty yn Abertawe yn cael ei drafod y prynhawn Iau.
Mae'r stadiwm yn dal 20,500 ar hyn o bryd ac mae Abertawe'n gobeithio ei ehangu i ddal 33,000.
Fe fydd aelodau o bwyllgor Rheoli Datblygu Cyngor Abertawe yn cwrdd ddiwedd prynhawn Iau i drafod y cais cynllunio.
Fe gafodd Stadiwm y Liberty ei godi yn 2005 ar gost o £27 miliwn.
Mae'n gartref i glwb pêl-droed Abertawe ac i ranbarth rygbi'r Gweilch.
Mae'r cais am estyniad yn dod yn sgil llwyddiant yr eEyrch yn yr Uwch-gynghrair.
Ehangu
Y bwriad yw adeiladu standiau newydd yn y gogledd, de a'r dwyrain, uwchben a thu ôl y standiau presennol.
Fe fydden nhw'n cael eu hadeiladu un ar y tro er mwyn gallu parhau i gynnig yr adnoddau presennol i'r cefnogwyr ac i darfu cyn lleied â phosib ar y clwb yn y cyfamser.
Mae'r awdurdod eisoes wedi caniatáu cais ar wahân i adeiladu estyniad i stand gorllewinol y stadiwm, sef pedwerydd llawr a 700 o seddi newydd.
Mae cyntedd newydd, fwy gyda derbynfa yn cael ei gynnig, yn ogystal â grisiau a lifftiau i helpu cefnogwyr i symud drwy'r stadiwm, ac ar yr ail lawr fe fydd bocsys lletygarwch corfforaethol.
Mae swyddogion yn awgrymu y dylai'r cais gael ei gymeradwyo ond gydag amodau i wella sefyllfa trafnidiaeth a pharcio ar ddiwrnodau gemau, gan gynnwys cynyddu a hybu'r defnydd o adnoddau parcio a theithio, a gwella llwybrau cerdded a beicio i'r stadiwm.
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnal ymchwiliad i drefniadau ariannu'r stadiwm ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2013