Cadarnhad bod Leigh Halfpenny yn gadael Gleision Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe ddaeth cadarnhad y bydd cefnwr Cymru, Leigh Halfpenny, yn gadael Gleision Caerdydd ar ddiwedd y tymor.
Cafodd seren y Llewod ei enwi'n Chwaraewr y Gyfres wedi'r daith lwyddiannus yr haf diwethaf.
Roedd yn Chwaraewr y Bencampwriaeth yn y Chwe Gwlad ym mis Mawrth ac mae wedi ennill Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.
Daeth yn ail i bencampwr Wimbledon, Andy Murray, yng ngwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC.
Mi fydd Halfpenny, sy'n dod o Orseinon ger Abertawe, yn nhîm Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yr wythnos nesaf.
Sawl cynnig
Oherwydd ei lwyddiant a'i boblogrwydd mae wedi cael cynnig cytundeb newydd gan ei glwb rhanbarthol, Gleision Caerdydd, yn ogystal â chytundeb canolog gan Undeb Rygbi Cymru.
Fel yn achos ei gyd-chwaraewyr yng ngharfan Cymru, Jamie Roberts, Mike Phillips, Dan Lydiate, James Hook a Luke Charteris, mae'r arian mawr a chynghrair proffil uchel yn Ffrainc yn dipyn o dynfa.
Y gred ydi y gall ennill yn agos at £400,000 y tymor gyda Toulon.
Mae'r clwb yn chwilio am rywun i gymryd lle Jonny Wilkinson.
Mae Halfpenny yn cael ei ystyried yn un o'r cefnwyr gorau yn y byd am iddo sgorio 344 o bwyntiau i Gymru mewn 48 o gemau ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2008.