Cwest i farwolaeth dyn o Aberogwr
- Published
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth dyn wnaeth orfod aros tu allan i'r ysbyty mewn ambiwlans am bedair awr.
Bu farw Michael Bowen o Aberogwr ddwy awr ar ôl cyrraedd yr uned yn Ysbyty Tywysog Cymru.
Fe wnaeth Mr Bowen ddechrau teimlo'n wael ar Ionawr 15, a chafodd ambiwlans ei alw i'w gludo i'r ysbyty am 5am y bore canlynol.
Bu farw am 2:05pm ar ôl mynd yn anymwybodol yn yr adran frys.
Dywedodd Judith Lewis o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg bod ymchwiliad eisoes yn cael ei gynnal ac y bydd y meddygon a'r nyrsys wnaeth ofalu am Mr Bowen yn rhoi tystiolaeth yn y man.
Bydd y cwest yn parhau ar Mai 22.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Ionawr 2014