Halfpenny'n mynd i Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Y gred ydi y bydd yn derbyn £400,000 y tymor gyda Toulon.

Mae rhanbarth rygbi'r Gleision wedi cadarnhau y bydd eu cefnwr Leigh Halfpenny yn gadael ar ddiwedd y tymor presennol.

Halfpenny, 25 oed, yw un o'r chwaraewyr gorau ym myd rygbi ar hyn o bryd ar ôl cael ei enwi'n chwaraewr gorau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013 a chwaraewr gorau'r gyfres ar daith y Llewod i Awstralia dros yr haf diwethaf.

Mae sibrydion wedi bod ar led ers tro bod clwb Toulon yn Ffrainc yn ceisio sicrhau gwasanaeth Halfpenny y tymor nesaf.

Wrth gadarnhau y bydd nawr yn gadael, dywedodd prif weithredwr y Gleision Richard Holland:

"Mae cadw Leigh wedi bod yn un o'n blaenoriaethau mwyaf ac rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu fel rhanbarth i geisio gwneud hynny.

"Fe wnaethon ni y cynnig gorau posib iddo, ond mae e wedi bod yn darged i un o brif glybiau Ewrop gydag adnoddau sylweddol a does dim modd i ni gystadlu gyda hynny ar hyn o bryd.

"Mae Leigh wedi bod yn was ffyddlon a gwych i'r Gleision ac rwy'n gwybod fod hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iddo.

"Mae'n gadael gyda'n dymuniadau gorau am lwyddiant gyda'i glwb newydd.

"Mae'r bygythiad i rygbi Cymru a'n gallu i gadw'n prif chwaraewyr yn cael ei bwysleisio gan y ffaith bod y gêm yn Ffrainc yn cael ei seilio ar enillion darlledu sy'n llawer iawn mwy nag unrhyw beth y byddwn ni'n ei dderbyn o'n cynghrair domestig.

"Rhaid datrys dyfodol y gêm yng Nghymru nawr - ni allwn ganiatáu i'r sefyllfa bresennol barhau."