Evans wedi ei wahardd o'r Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Fe fydd clo Cymru a'r Llewod, Ian Evans, allan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, wedi iddo gael ei wahardd rhag chwarae am 12 wythnos.
Roedd Evans yn wynebu panel disgyblu annibynnol yn Nulyn yn sgil digwyddiad yn y gêm rhwng y Gweilch a Leinster nos Wener ddiwethaf.
Fe gafodd Ian Evans gerdyn coch am sathru ar chwaraewr arall.
Penderfynodd y dyfarnwr, Romain Poite, ei yrru o'r maes ar ôl gweld lluniau teledu o'r digwyddiad a adawodd Mike McCarthy gyda gwaed dros ei wyneb.
Roedd hyd cosb Evans yn dibynnu ar ddehongliad y panel disgyblu o'r digwyddiad, ac fe allai fod wedi wynebu 2 wythnos am achos bychan, 5 wythnos am achos canolig ac unrhywbeth rhwng 9 a 52 wythnos am yr achosion mwyaf difrifol.
Bu'r swyddog barnwrol annibynnol, Jeremy Summers o Loegr, yn gwrando ar dystiolaeth gan Evans, oedd wedi pledio'n euog, rheolwr tîm y Gwleich, Andy Lloyd, a Swyddog Disgyblu yr ERC (European Rugby Cup).
Nododd y Swyddog Disgyblu bod yr achos wedi cynnwys o leiaf dau sathriad ar ben McCarthy arweiniodd at anaf difrifol i'w wyneb.
Dywedodd Mr Summers nad oedd lle yn y gêm i ymddygiad fel hyn, ac roedd Evans ei hun yn derbyn hynny yn ystod y gwrandawiad.
Fe benderfynodd bod y cyhuddiad ym mhen uchaf cosbau'r IRB am achosion o'r math yma ac y byddai 16 wythnos yn addas, ond fe gwtogodd y gosb o bedair wythnos yn sgil ple euog y chwaraewr, ei ymddygiad da a'i edifeirwch yn ystod y gwrandawiad.
Fe fydd Evans yn rhydd i chwarae o Ebrill 21 ymlaen, ond mae gan y chwaraewr a'r ERC yr hawl i apelio'r penderfyniad.
Mae hyn yn golygu na fydd clo Cymru yn gallu chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae Evans wedi ennill 32 cap i Gymru yn yr ail reng.
Gyda chyhoeddiad ddydd Llun na fydd Ryan Jones ar gael ar gyfer y bencampwriaeth, roedd un o ddewisiadau posib Warren Gatland yn y safle hwnnw eisoes wedi diflannu.
Fe fydd yn rhaid i Gatland rwan ystyried dewisiadau eraill.
Straeon perthnasol
- 21 Ionawr 2014