Ian Watkins yn apelio yn erbyn ei ddedfryd
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-ganwr grŵp y Lostprophets wedi gwneud cais am hawl i apelio yn erbyn hyd ei ddedfryd.
Fe gafodd Ian Watkins o Bontypridd ddedfryd o 35 mlynedd - gan gynnwys 29 mlynedd o garchar - wedi iddo bledio'n euog i gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant, gan gynnwys ceisio treisio babi.
Fe gafwyd cadarnhad bod y Llys Apel wedi derbyn cais ddau ddiwrnod yn ôl.
Fe gafodd Watkins, sy'n 36 oed, ei ddedfrydu fis diwethaf ynghyd â dwy wraig oedd yn famau i'r plant yr oedd wedi'u camdrin.
Fe gafodd un wraig ei charcharu am 14 mlynedd, y llall am 17 mlynedd.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i droseddau eraill posib gafodd eu cyflawni yn Yr Almaen ac America.
Hefyd mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad i dri o heddluoedd am y modd y gwnaethon nhw ddelio gyda'r cwynion cyntaf yn erbyn Watkins.
Straeon perthnasol
- 18 Rhagfyr 2013