Alun Wyn yn aros â'r Gweilch
- Cyhoeddwyd

Mae Alun Wyn Jones wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r Gweilch.
Mae'r clo, 28, wedi ennill 74 o gapiau i Gymru ac wedi chwarae chwech o weithiau i'r Llewod.
Roedd cytundeb Jones yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ond bydd nawr yn aros yn Stadiwm y Liberty tan ddiwedd tymor 2015/16.
"Rydw i'n falch iawn i gael penderfynu ar fy nyfodol, sy'n golygu y gallaf ganolbwyntio ar fy rygbi yn unig," meddai.
"Mae'n braf iawn cael cynigion o lefydd eraill, ond ar y cyfnod yma yn fy ngyrfa rydw i'n canolbwyntio ar fod yn y lle iawn i sicrhau bod fy ngyrfa clwb a rhyngwladol yn parhau.
"Mae'n bwysig i mi fy mod yn chwarae'r lefel cywir o rygbi."
Aros yng Nghymru
Bydd penderfyniad Jones i aros yng Nghymru yn cael ei groesawu gan y Gweilch, ond hefyd rygbi Cymreig yn gyffredinol.
Ddydd Iau, Leigh Halfpenny oedd y diweddaraf i gadarnhau ei fod yn gadael Cymru ar ddiwedd y tymor i ymuno a thîm ar y cyfandir.
Halfpenny fydd yr wythfed i symud i Ffrainc pan fydd yn ymuno a Toulon, tra bod dau yn chwarae yn Lloegr.
Mae gobaith y bydd capten Cymru, Sam Warburton yn cadarnhau ei ddyfodol yng Nghymru hefyd, ond mae posib y bydd hynny ar ffurf cytundeb canolog gydag Undeb Rygbi Cymru yn hytrach na'r Gleision.
Mae ansicrwydd yn parhau am gystadleuaeth Ewropeaidd yn y dyfodol, er i wledydd y Chwe Gwlad ddod i gytundeb yn gynharach yn yr wythnos.
Ond mae'r Gweilch yn dweud eu bod wedi rhoi sicrwydd i Jones am ei ddyfodol gyda'r rhanbarth.
"Bydd yn rhoi hwb i bawb yn y rhanbarth, chwaraewyr, hyfforddwyr, staff, partneriaid a chefnogwyr, hwb enfawr," meddai Andy Lloyd.
"Mae Alun Wyn wedi bod, ac yn parhau i fod yn was gwych i'r rhanbarth ac mae'n esiampl i eraill o'i gwmpas.
"Fel arweinydd naturiol, mae'n mynnu'r safonau uchaf gan ei hun a phawb yn yr amgylchedd yma, a bydd yn lle gwell gydag ef o gwmpas dros y tymhorau nesaf."
Straeon perthnasol
- 23 Ionawr 2014
- 22 Ionawr 2014
- 23 Ionawr 2014