Teulu yn apelio am Nida Naseer
- Cyhoeddwyd

Mae teulu merch sydd ar goll o'i chartref yng Nghasnewydd wedi gwneud apêl iddi ddod adref, bron i bedair wythnos wedi ei diflaniad.
Y diwrnod cyn ei phenblwydd yn 19 oed, mae teulu Nida Naseer wedi gwneud apêl fideo am wybodaeth am eu merch.
Cafodd y ferch ei gweld am y tro diwethaf ar Ragfyr 28, wrth iddi fynd â bagiau sbwriel y tu allan i'w chartref yn ardal Pillgwenlli, Casnewydd.
Mae ei thad, Naseer Tahir wedi pledio i'w ferch ddod adref, a dywedodd ei mam Najma Tahir a'i chwaer Shamyla Naseer nad oedden nhw'n gallu byw hebddi.
Dywedodd Shamyla Naseer wrth ei chwaer na ddylai hi boeni am unrhyw beth, a bod gan pawb hiraeth mawr amdani.
Er gwaethaf sawl ymgyrch chwilio yn yr ardal, nid yw'r heddlu wedi dod o hyd i unrhyw wybodaeth am Ms Naseer hyd yma.
Pan gafodd Ms Naseer ei gweld ddiwethaf, roedd hi'n gwisgo jîns a chrys du.
Mae ganddi wallt hir tywyll ac mae hi'n 5 troedfedd 3 modfedd o daldra.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014