Beiciwr wedi marw mewn damwain
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i feiciwr gael ei ladd mewn damwain ffordd yn Abertridwr ger Caerffili.
Digwyddodd y ddamwain, rhwng car Renault Clio glas a'r beiciwr, oddeutu 6.00yh nos Iau, Ionawr 23 ar Y Sgwar yn y dref.
Cafodd y beiciwr, dyn lleol 63 oed, ei gludo i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd, lle bu farw.
Ni chafodd gyrrwr y car ei frifo.
Gall unrhyw un welodd y ddamwain gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 390 23/01/14.